Adnoddau ar-lein fel rhan o Eisteddfod T
Yn ystod wythnos Eisteddfod T eleni, mae gwyddonwyr Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o weithgareddau ar-lein cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r digwyddiad. Mae fideos ar gael ac adnoddau i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.
Mae pafiliwn y GwyddonLe wedi bod yn bartneriaeth rhwng yr Urdd a Phrifysgol Abertawe ers 2010, ac mae'n un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, wrth i arbenigwyr ddod â gwyddoniaeth yn fyw gydag arddangosion a gweithdai gwyddonol rhyngweithiol ar gyfer y miloedd o bobl ifanc sy'n ymweld â'r pafiliwn bob dydd.
Gyda'r Eisteddfod yn cael ei symud ar-lein llynedd, mae’r Urdd yn anelu at gynnal Eisteddfod T fwy arloesol fyth eleni drwy gynnwys mwy o gystadlaethau ac elfennau newydd er mwyn cynnig profiadau unigryw i holl blant a phobl ifanc Cymru, eu hathrawon a’u teuluoedd. Mae Prifysgol Abertawe'n parhau i gynnig gweithgareddau gwyddoniaeth bob dydd yn ystod yr wythnos ar Ap yr Eisteddfod ac isod.
Digwyddiadau Byw y GwyddonLe
Bydd Technocamps yn cynnal dwy sesiwn fyw ‘Achub y Gofodwr’ ar Zoom yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni fel rhan o arlwy’r GwyddonLe. Mae’r sesiynau, a fydd yn cael eu cynnal ar brynhawn Mawrth, 1af Mehefin, a bore Gwener 4ydd Mehefin, yn addas ar gyfer plant 9-13 oed. Bydd angen i blant ddatrys problemau i achub "gofodwr" a bydd cyfle iddynt holi cwestiynau am y gofod hefyd!
I gofrestru, cliciwch ar y dolenni isod;
- Dydd Mawrth, 1af Mehefin am 2pm bit.ly/AchubyGofodwr1
- Dydd Gwener, 4ydd Mehefin am 10am bit.ly/AchubyGofodwr25
Ganol dydd ar ddydd Gwener, 4ydd o Fehefin, bydd Her Sefydliad Morgan – ein cystadleuaeth ddadl gyhoeddus – yn cael ei chynnal yn fyw. Ewch i dudalen Her Sefydliad Morgan am fanylion.
Mae fideos newydd eleni ar gael isod ac yn cynnwys y canlynol;
-
Sut mae planhigion yn cymryd dŵr wrth ddefnyddio'r sylem gyda Dr Gethin Thomas
-
Llosgfynyddoedd gyda Tom Kemp
- Y Synhwyrau gyda Dr Alwena Morgan
-
Arbrawf Batri Ceiniog gyda Carys Worsley, Specific IKC, Prifysgol Abertawe
-
Toddion ac Osmosis gyda Dr Gethin Thomas
-
Sut mae dull Gauss yn gweithio i gyfrifo cyfanswm gyda Dr Kristian Evans
-
Haematoleg: Grwpio Gwaed gyda Dr Alwena Morgan
Fideos ac adnoddau'r GwyddonLe