Sut allwn ni helpu?

Os ydych yn edrych am gymorth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg eich gweithle, mae ein gwasanaeth yn cynnig cyngor cynhwysfawr i’ch helpu i gynllunio rhaglen hyfforddi addas. Cynigir yr hyfforddiant yn eich gweithle. 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Safonau Iaith Gymraeg newydd; mae’r rhain wedi cymryd lle’r cynlluniau iaith Gymraeg. Bydd rhaid i sefydliadau cyhoeddus a rhai sefydliadau preifat a thrydedd sector gydymffurfio â’r Safonau hyn. Bydd rhaid i weithleoedd ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg i’w gweithlu, rydym yma i’ch helpu chi.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gweithle Cymraeg ar lefelau gwahanol sy’n cael eu:

  • Teilwra at anghenion eich gweithle
  • Trefnu ar amser sy’n gyfleus i chi
  • Cynnig yn eich gweithle
  • Cynnig am gost resymol iawn
  • Darparu ar gyfer grŵp o unrhyw faint, mawr neu fach, hyd yn oed hyfforddiant i unigolion
  • Dysgu gan diwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i’r radd uchaf, yn brofiadol ac yn ymroddedig

Mae rhoi’r cyfle i’ch gweithle ddysgu Cymraeg yn creu ewyllys da ymhlith eich gweithwyr; bydd hyn hefyd yn eich gwneud yn fwy cystadleuol fel busnes. Mae cael gweithlu dwyieithog yn eich galluogi i:

  • Gael mantais gystadleuol
  • Derbyn ewyllys da a theyrngarwch gan gwsmeriaid
  • Gwella ansawdd eich gwasanaeth
  • Tyfu ac ennill mwy o gwsmeriaid.

 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Emyr Jones, Swyddog Datblygu, emyr.jones@abertawe.ac.uk  / 01792 602643

Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe - lefel Mynediad (a thu hwnt!)

Rydym yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i staff y brifysgol, er mwyn cefnogi academyddion a staff gweinyddol/ cefnogi i ddysgu Cymraeg.  Trwy nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae’r cynllun ar gael am y seithfed flwyddyn o’r bron.

Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan staff o uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu dysgu ar-lein gydag ambell sesiwn gefnogi ychwanegol  wyneb yn wyneb. 

Rydym yn cynnig yr ystod lawn o lefelau, o ddechreuwyr pur (Mynediad) i Sylfaen, Canolradd, Uwch ac Hyfedredd.

Bydd y dosbarthiadau yn wersi wythnosol ar-lein (2 awr X 32 wythnos) gyda’r dysgwyr yn cwblhau gwaith rhwng y gwersi.  Gall hyn gyflymu’r cynnydd a galluogi dysgwyr i brofi’r buddion yn gynt.   Dylai staff sydd â diddordeb drefnu gyda’u rheolwr llinell er mwyn cael eu rhyddhau am 2 awr yr wythnos yn ogystal ag amser  ychwanegol bob wythnos (tasgau ar-lein annibynnol / paratoi / adolygu) am gyfnod o 32wythnos (rhwng Medi 2024 a Gorffennaf 2025). 

I gofrestru cliciwch ar un o’r dolenni isod yn unig.  Yn gyntaf bydd gofyn i chi greu cyfrif gyda Dysgu Cymraeg – gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost personol neu un y brifysgol i gofrestru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru'n gywir anfonir e-bost cadarnhau atoch gyda diwrnod/amser y dosbarth.  Anfonwch hwn ymlaen at emyr.jones@swansea.ac.uk

Rydym wedi trefnu cyfarfodydd i’ch helpu i gofrestru a’ch paratoi ar gyfer dechrau'r cyrsiau ar lein ym mis Medi.  Bydd y sesiynau hyn yn sicrhau bod gennych y cwrslyfr a’r adnoddau perthnasol:

Dydd Iau 18fed         13:00-14:00  NEU     Dydd Llun 22ain       12:00- 13:00

I ymuno â chyfarfod, cliciwch ar y ddolen Zoom:

https://swanseauniversity.zoom.us/j/95443419992?pwd=VkM4MVFzQmxtYm41WWpETzNueUw5QT09

Meeting ID: 954 4341 9992

Passcode: 916357

………………………………………………………………………………

Dysgu trwy diwtor yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu iaith a dylai fod yr opsiwn a ffefrir bob amser. Fodd bynnag, os na allwch ymrwymo i’r naill na’r llall o’r gwersi wythnosol, gallwn gynnig cwrs hunan-astudio. Er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol eich bod yn ymrwymo i astudiaeth annibynnol wythnosol (un uned / wythnos = tua 2 awr) er mwyn gallu cael mynediad i sesiynau ymarfer / cymorthfeydd rheolaidd a fydd yn edrych ar flociau o 3 uned gydag Emyr Jones. Ni ddylai hyn gael ei ystyried yn opsiwn hawdd gan ei fod yn cymryd ymrwymiad gwirioneddol i lwyddo. 

Dolen Cofrestru Mynediad Hunan-astudio:

https://learnwelsh.cymru/learning/course/72354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

 

Cynhelir cyfarfod i’ch helpu i gofrestru a’ch paratoi ar gyfer dechrau'r cwrs hunan-astudio ym mis Medi gan sicrhau eich bod yn deall gofynion y cwrs a’r lefel o ymrwymiad:

Dydd Llun 22ain         13:00-14:00

I ymuno â chyfarfod, cliciwch ar y ddolen Zoom:

https://swanseauniversity.zoom.us/j/95443419992?pwd=VkM4MVFzQmxtYm41WWpETzNueUw5QT09

Meeting ID: 954 4341 9992

Passcode: 916357

………………………………………

Dosbarthiadau dilynol – manylion a dolenni ymgofrestru:

Mynediad  2        Dydd Mawrth 9:00-11:00

https://learnwelsh.cymru/learning/course/71354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Sylfaen 1 & 2 Zoom        Dydd Mawrth 12:00 – 2pm

https://learnwelsh.cymru/learning/course/73354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Canolradd     Dydd Gwener 9:00-11:00

https://learnwelsh.cymru/learning/course/74354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Uwch 1               Dydd Mercher 13:00 – 15:00

https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/75354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Uwch 2             Dydd Mawrth 13:00 - 15:00

https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/76354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Uwch 3  Dydd Mawrth  9:30 – 11:30

https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/77354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Hyfedredd         Dydd Mawrth 12-1      a / neu         Dydd Gwener 11-12

https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/78354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag emyr.jones@swansea.ac.uk

 

Fwy am y cynllun

Mae’r cynllun yma, ynghŷd â chyrsiau eraill a gynigir gan uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, yn cefnogi amcanion strategol y Brifysgol trwy:

  • wella sgiliau iaith Gymraeg staff y brifysgol;
  • ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg;
  • ehangu profiadau i fyfyrwyr a rhanddeiliaid; a
  • hybu a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. 

Mae rhai o’ch cyd-weithwyr eisoes wedi elwa’n fawr o’r cynllun hwn dros y tair mlynedd ddiwethaf – dyma sydd gyda nhw i’w ddweud:

“…ffordd wych i fynd i’r afael â’r iaith o fewn grŵp mawr…”   

“mae’r cyrsiau wedi’u strwythuro’n dda… llawer o ryngweithio a chwestiynau, mewn awyrgylch gyfeillgar …”

“mae’r cwrs wedi fy helpu i gyfieithu cynnwys cyfryngau cymdeithasol dw i’n ei greu ar gyfer yr adran….a rhoi’r hyder i mi ddechrau siarad Cymraeg gyda fy ngwraig hefyd”

“Mae astudio Cymraeg ar-lein wedi rhoi hyder i mi ddechrau cyfathrebu gyda chyd-weithwyr yn Gymraeg trwy e-bost.  Er nad ydym gyda’n gilydd ar hyn o bryd, mae’r cwrs wedi cynnig y cyfle i mi wireddu fy mreuddwyd o ddysgu’r iaith , gan ddechrau cynnal sgyrsiau syml y gallwn ‘mond wedi breuddwydio eu cael y llynedd.  Alla i ‘mond canu clod i’r cwrs yma.”

“Mae'r cwrs wedi gloywi'n iaith sydd wedi fy ngalluogi i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus i'w defnyddio'n swyddogol gan gynnwys ysgrifennu yn y Gymraeg.”   (siaradwr Cymraeg)

Edrychwn ymlaen at helpu mwy o staff y Brifysgol i fwynhau dysgu’r Gymraeg a’i defnyddio o fewn y gweithle.