Triniaeth Osteopatheg yn ystod beichiogrwydd
Pan fyddwch yn feichiog, bydd eich corff yn mynd drwy ystod enfawr o newidiadau, a'r mwyaf amlwg yw magu pwysau a newidiadau i’ch osgo. Bydd newidiadau llai amlwg hefyd fel meddalu gewynnau oherwydd newidiadau hormonaidd a lleoliad anghyfforddus babi sy'n tyfu. Gall cyfuniad o'r newidiadau hyn roi pwysau ychwanegol ar eich cymalau, eich asgwrn cefn a'ch pelfis a gallant weithiau effeithio ar allu menyw i barhau â thasgau o ddydd i ddydd.
Dyma rai o'r cyflyrau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar fenywod beichiog :
- Seiatica
- Poen yng ngwregys y pelfis
- Poen yn rhan isaf y cefn
- Poen yn y gwddf, yr ysgwydd a rhan uchaf y cefn
- Problemau yn y pelfis, y glun a'r coesau
Gall triniaeth osteopathig hefyd helpu i leddfu poen ac anghysur sy'n gysylltiedig âg:
- Osgo gwael wrth fwydo ar y fron
- Codi a chario eitemau trwm fel seddi ceir a phramiau
- Cario babi neu blentyn ifanc
Ydy osteopatheg yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?
Mae osteopathiaid yn defnyddio technegau cyffwrdd, trin, , estyn a thylino’r corff sy'n gwbl ddiogel ac yn dyner i'r fam a'r baban. Mae'r technegau y mae osteopath yn eu defnyddio ar fenyw feichiog yn cael eu dewis yn ofalus i leihau unrhyw risg a chânt eu haddasu i fod yn addas i'r claf.
Mae ein hosteopathiaid cymwys iawn yn darparu ffordd ddiogel ac effeithiol o ddelio â'r cyflyrau cyffredin hyn drwy helpu'r corff i addasu ac alinio wrth i'r beichiogrwydd fynd yn ei flaen. Gall hyn helpu i leihau anghysur a phoen gan arwain at feichiogrwydd haws.
Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r uchod, trefnwch apwyntiad gydag un o'n hosteopathiaid yn ein clinig addysgu o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe.