Dyfarniad untro o £300 i helpu gyda chostau annisgwyl sy'n gysylltiedig â phrofedigaeth.
Gall myfyrwyr gyflwyno cais i Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe (y rhai sy’n talu ffïoedd myfyrwyr o’r DU) neu’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol (y rhai sy'n talu ffïoedd myfyrwyr o dramor).
Nodwch yn adran 'Tystiolaeth' eich ffurflen gais eich bod wedi cael profedigaeth yn ddiweddar, ar ôl profi marwolaeth aelod agos o'r teulu (er enghraifft rhiant/gwarcheidwad, brawd neu chwaer, partner, plentyn, priod) neu ffrind agos ers dechrau eich blwyddyn academaidd bresennol (er enghraifft 01/09/23 ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Medi 2023), sydd wedi cael effaith annisgwyl arnoch chi a'ch cyllid.
Rhaid i fyfyrwyr cymwys fod wedi 'cofrestru' neu fod wedi 'gohirio' ac o fewn 5 wythnos i ddyddiad gorffen eu cwrs (fel y'i cofnodwyd ar eu cofnod ar y fewnrwyd).
Mae'r taliad ar gyfer costau annisgwyl, er enghraifft teithio, costau byw a biliau, ac ni all dalu am gost y gwasanaethau y mae'r brifysgol eisoes yn eu cynnig (er enghraifft cwnsela) na therapi preifat.
Bydd eich cais yn cael ei asesu fel blaenoriaeth ac o fewn ein hamserlenni asesu safonol.
Rydym yn gofyn am gyfriflen banc gyfredol am gyfnod o fis os ydych chi'n cyflwyno cais am y taliad cymorth profedigaeth yn unig.
E-bostiwch ni yn uniongyrchol yn hardshipfunds@abertawe.ac.uk gan nodi eich bod am gyflwyno cais am y Taliad Cymorth Profedigaeth.
Mae ymgeisiadau ar gyfer y Taliad Cymorth Profedigaeth ar gau am y flwyddyn academaidd. Byddent yn ail-agor ym mis Awst 2024. Ebostiwch hardshipfunds@swansea.ac.uk am wybodaeth a chymorth os ydych yn cael trafferth ariannol yn y cyfamser