Mae Cymdeithas Affricanaidd Caribïaidd Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Nofio Du (BSA) yn trefnu sesiwn ymgyfarwyddo â dŵr i'ch helpu i ddeall a chanfod eich lle ym myd nofio a dyfrol. Byddwch yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol, yn rhoi’r sgiliau hynny ar waith yn y dŵr ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar eich perthynas â dŵr. Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Gweithdy diogelwch dŵr by
  • Rhagflas o raglen ymgyfarwyddo dŵr y BSA yn y pwll
  • Trafodaeth fer ar sut y gallwn ni rannu negeseuon diogelwch dŵr o fewn ein cymunedau     

Rydym am weithio gyda phawb, ni waeth pa allu, i helpu i adeiladu’ch hyder yn y dŵr a rhoi hwb i'ch taith ddyfrol. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod â meddwl agored ac yn barod i ymgysylltu.

Ymunwch â ni ar ddydd Iau 26 Hydref rhwng 18:30 a 20:30 ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Lôn Sgeti, Sgeti, Abertawe SA2 8QG.

I gofrestru, cwblhewch POB UN o'r 3 ffurflen trwy'r dolenni isod gan ddefnyddio'r cod SWAUNI261023 pan ofynnir i chi.

Ffurflen gofrestru i’r sesiwn yma

Ffurflen Caniatâd Ffotograff a Ffilm BSA yma

Ffurflen Caniatâd Cyswllt Corfforol yma

Mae 16 lle ar gael, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r 3 ffurflen isod i gofrestru. Bydd cofrestriadau'n cau ar 20 Hydref a byddant yn seiliedig ar y cyntaf i'r felin. Unwaith y byddwch wedi llenwi pob ffurflen, bydd aelod o staff y BSA yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle.

Bydd rhagor o wybodaeth am amseriadau a'r hyn sydd angen i chi ddod ag ef gyda chi yn cael ei darparu ar ôl i chi gofrestru

Am unrhyw ymholiadau cysylltwch â

BSA: Steph stephmakuvise@thebsa.co.uk 

Prifysgol Abertawe: Theresa t.o.ogbekhiulu@swansea.ac.uk