Cefnogaeth ar gyfer Myfyrwyr sydd wedi’u Dieithrio

Caiff myfyrwyr eu hystyried i fod wedi'u dieithrio o'u teuluoedd os yw perthnasoedd â'u rhieni wedi dirywio mewn ffordd na ellir eu cymodi ac nid oes modd rhagweld sut y gallai hyn wella. Bydd rhai myfyrwyr yn cofrestru yn y brifysgol sydd eisoes wedi'u dieithrio o'u rhieni, tra bydd eraill yn dod i fod wedi'u dieithrio yn ystod eu hastudiaethau.

Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn darparu cyngor, cyfleoedd a gwybodaeth bwrpasol i cymwys myfyrwyr cymwys sydd wedi'u dieithrio o'u rhieni. Gallwn ni eich helpu chi i gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys llety, cymorth academaidd a chyllid gan eich galluogi chi i wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am eich astudiaethau a'ch profiad yn y brifysgol.

Hysbysu’r Brifysgol am eich statws

O'r hydref yn 2023, gall ymgeiswyr nodi eu bod nhw'n fyfyrwyr wedi'u dieithrio o'u teuluoedd drwy dicio'r blwch ar eu cais UCAS. Os byddwch chi'n anghofio ticio'r blwch yn eich cais UCAS neu os ydych chi'n fyfyriwr sy'n parhau, gallwch chi anfon e-bost  uniongyrchol atom i ddweud wrthym ni am eich statws. Pan fyddwn ni’n ymwybodol o’ch sefyllfa ymddieithrio, byddwn ni’n cysylltu â chi i drafod y cymorth sydd ar gael. 

I gadarnhau eich statws fel myfyriwr wedi'ch dieithrio a chyrchu'r pecyn cymorth, bydd angen i chi ddarparu'r llythyr sy'n cadarnhau eich dieithriad a roddwyd i chi gan eich darparwr cyllid. Os hoffech chi gael gwybodaeth am sut i ofyn i'ch darparwr cyllid eich asesu fel myfyriwr annibynnol am eich bod wedi'ch dieithrio o'ch teulu, ewch i'n tudalen am gyflwyno cais i gael asesiad am gyllid fel myfyriwr annibynnol i fyfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teulu - sydd ar gael yma.

Ni fydd nodi eich hun fel myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio yn effeithio ar eich cais mewn ffordd andwyol a bydd eich statws yn parhau i fod yn gyfrinachol. Bydd y Brifysgol dim ond yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau eich bod chi'n derbyn y cymorth priodol. Ni fyddwn yn dweud wrth eich adran am eich statws fel myfyriwr wedi'i ddieithrio. 

Yn aml iawn, mae'r brifysgol yn bennod newydd ac rydym ni'n deall efallai y byddwch chi am symud ymlaen o'ch profiadau yn y gorffennol. Bydd rhoi gwybod i ni eich bod chi wedi'ch dieithrio yn ein helpu ni i'ch hysbysu am y cymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, eich penderfyniad chi'n gyfan gwbl yw dewis i gyrchu'r cymorth ai peidio. Os byddwch chi'n dewis i beidio â'i gyrchu, bydd ein drws bob amser ar agor i chi os byddwch chi'n newid eich meddwl. 

I gynnig cymorth i chi, ni fydd yn rhaid i ni wybod pam eich bod chi wedi'ch dieithrio o'ch rhieni, felly ni fyddwn ni byth yn gofyn am fanylion.

Sut ydw i'n gymwys am gymorth? Swyddog Mynediad

Pa gymorth sydd ar gael?

Pa gymorth sydd ar gael cyn i mi ddechrau yn y brifysgol?

Cymorth Ariannol i Fynd i Gyfweliadau a Diwrnodau Agored Gall
Gall ein Swyddog Mynediad helpu i drefnu eich ymweliad a threfnu cwrdd â chi. Mae modd ad-dalu costau teithio (bydd hyn, fel arfer, yn cynnwys cost tocyn rheilffordd ail ddosbarth a chostau cludiant cyhoeddus eraill).

Cyngor am Flaendaliadau Llety
Pan fyddwch yn derbyn cynnig am lety yn y brifysgol, bydd angen i chi dalu blaendal i gadw eich lle yn y llety. Os ydych yn poeni am y costau hyn, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.  

Pa gymorth fydd ar gael i mi wrth astudio? Pa gymorth sydd ar gael cyn graddio?

Gwybodaeth i Gweithwyr Proffesiynol

Os ydych chi'n gweithio gyda myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu ac sy'n ystyried gwneud cais i Brifysgol Abertawe ac mae gennych gwestiynau am y broses gwneud cais, cyllid neu'r pecyn cymorth sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cyfrinachedd

Ymdrinnir â holl wybodaeth gan Cyfranogiad@BywydCampws yn gwbl gyfrinachol. Ar yr achlysuron y bydd angen i ni ymgynghori â staff o adran arall neu o sefydliad allanol gwneir hyn ar ôl derbyn caniatâd gennych chi yn gyntaf. 

Cysylltwch â Ni

Os hoffet ti gysylltu â ni, e-bostia participation.campuslife@abertawe.ac.uk 

Mae’n rhaid i fyfyrwyr presennol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu â Cyfranogiad@BywydCampws.