Anne Boden

BSc Cyfrifiadureg a Chemeg, 1981. Prif Swyddog Gweithredu, Starling Bank.

Mae gan Anne genhadaeth i weddnewid y sector bancio er mwyn darparu profiad gwell i gwsmeriaid. A hithau’n bennaeth banc sefydledig yn y DU, mae Anne hefyd yn eiriolwr pwerus dros benodi rhagor o fenywod i rolau blaenllaw mewn busnes.

Beth oedd eich rhesymau dros astudio Cyfrifiadureg a Chemeg yn Abertawe?

Mae un o’r lluniau cynharaf sydd gen i o’m plentyndod yn fy nangos ym mreichiau fy nhad wrth iddo sefyll y tu allan i Brifysgol Abertawe. Ces i fy ngeni a’m magu yn y ddinas ac roedd pawb yn falch iawn o’r brifysgol. Roedd rhaglen ddatblygu graddfa fawr wedi’i chwblhau ar ddechrau’r 60au ac, yn amlwg roeddem ni wedi bod i lawr i gael cipolwg ar y campws yn ei leoliad gwych ym Mae Abertawe. Roedd y rhan fwyaf o brifysgolion yng nghanol dinasoedd ond yma, roedd y gorau o ddau fydd gennym, roeddech chi’n gallu astudio a mynd i syrffio.

Pan oeddwn i yn y chweched dosbarth, byddwn i’n cymryd rhan mewn gweithdai ffiseg a chemeg yn y brifysgol, lle mai fi fyddai’r unig ddisgybl chweched dosbarth yno’n aml. Serch hynny, doeddwn i ddim yn disgwyl astudio yno yn y tymor hir. Roeddwn i wedi penderfynu astudio meddygaeth ac roeddwn i’n bwriadu teithio ymhellach am fy ngradd. Doedd fy nghanlyniadau Safon Uwch ddim cystal ag roeddwn i’n gobeithio, felly treuliais i fore hir ar y ffôn yn siarad â phrifysgolion amrywiol i weld beth oedd ar gael. Yn y diwedd, ces i sgwrs â rhywun yn Abertawe a soniodd am radd mewn Cyfrifiadureg a’r eiliad clywais i hynny, roeddwn i’n meddwl dyna’r hyn dwi eisiau ei wneud. Roedd yn cyfuno popeth roeddwn i’n ymddiddori ynddo a byddai’n rhoi cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd  hefyd.

Ar y pryd, roedd cyfrifiadura yn ei ddyddiau cynnar, felly doedd dim modd gwneud gradd gyfan mewn cyfrifiadureg oherwydd nad oedd digon o gynnwys i wneud y radd yn gyfartal â phynciau academaidd eraill. Roedd rhaid i mi ychwanegu pwnc arall i gryfhau’r cwrs a dewisais i Gemeg.

"Roeddwn i’n lwcus iawn y dewisais i astudio cyfrifiadureg, er na fyddai neb wedi dychmygu ar y pryd y byddai cyfrifiaduron yn rhan mor ganolog o’n bywydau nawr."

Beth yw eich atgofion gorau am eich amser yn Abertawe?

Os ydych yn disgwyl clywed straeon am fy nyddiau gwyllt yn y brifysgol, byddwch chi’n cael eich siomi wrth siarad â mi, mae arna i ofn. Treuliais i’r rhan fwyaf o ddiwrnodau yn y llyfrgell. Hanfod prifysgolion yw rhoi cyfle i chi weithio’n annibynnol a meddwl dros eich hun. Roeddwn i’n dwlu ar hynny. Dyna beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud ers pan oeddwn i’n ifanc. Roeddwn i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m plentyndod mewn siopau llyfrau, neu yn y llyfrgell neu â fy mhen yn y copi ail law o wyddoniadur Britannica roedd fy nhad wedi’i brynu i mi pan oedd yr athrawon ar streic. Nawr roedd gen i gyfle i eistedd yn y llyfrgell yn astudio drwy’r dydd, gwyn fy myd.

Roedd yr elfen cyfrifiadureg o’r cwrs yn hynod ddiddorol. Dwi wastad wedi mwynhau trefnu data. Yn blentyn bach, byddwn i’n trefnu llyfrynnau, llyfrau, a hyd yn oed gyfarpar cegin, yn nhrefn yr wyddor. Ond roedd yr elfen cemeg yn ddiflas tu hwnt. Doedd fy nhueddiad i gael damweiniau yn y labordai cemeg ddim yn helpu chwaith. Roedd rhaid i’r technegwyr labordy druan edrych i’r cyfeiriad arall bob tro torrais i ddarn arall o gyfarpar gwydr cymhleth. Doeddwn i byth yn gallu teimlo’n gyffrous am gymysgu’r holl gynhwysion gwlyb hyn chwaith. Dwi’n amau mai dyna’r rheswm dros fy niffyg diddordeb gydol oes mewn coginio.

Roedd cyfrifiadura’n weddol sylfaenol o hyd yn y dyddiau hynny. Roedd gennym gyfrifiadur PDP 11 Unix a oedd yn caniatáu i ni fewnbynnu data ar gardiau. Roedd system lafurus iawn lle byddech yn ysgrifennu eich rhaglen, yna roedd rhaid i chi ruthro i lawr y grisiau â’r cerdyn tyllog a mynd ag ef i ystafell arall ar bwys y ffreutur i’w redeg. Byddai bob amser tipyn o giw ac yna roedd rhaid aros am hanner awr i weld a oedd wedi gweithio. Wedyn, byddai rhaid i chi fynd yn ôl i fyny i’r ystafell gwyddorau cyfrifiadura a gwneud addasiadau angenrheidiol i’r rhaglen cyn mynd drwy’r broses gyfan eto. Roeddwn i’n ffit iawn yn y dyddiau hynny gyda’r holl redeg i fyny ac i lawr y grisiau.

Dysgon ni lawer am Ddeallusrwydd Artiffisial, cronfeydd data a dadansoddiad algorithmau, a oedd yn swnio’n wych ar y pryd, ond dyma ni, 40 o flynyddoedd wedi hynny, ac mae’r pethau hyn wedi datblygu’n aruthrol. Roeddwn i’n lwcus iawn y dewisais i astudio cyfrifiadureg, er na fyddai neb wedi dychmygu ar y pryd y byddai cyfrifiaduron yn rhan mor ganolog o’n bywydau nawr.

Beth wnaethoch chi ar ôl graddio o Abertawe?

Roeddwn i’n ddifrifol iawn am sicrhau swydd, dechreuais i gynllunio beth byddwn i’n ei wneud o’r ail flwyddyn yn Abertawe a threuliais i lawer o amser yn y swyddfa yrfaoedd. Sylweddolais i’n eithaf cyflym fod llawer o’r swyddi a oedd yn gofyn am raddau mewn cyfrifiadureg yn swnio braidd yn ddiflas. Roedd British Rail, fel yr oedd ar y pryd, yn recriwtio pobl â’r cymhwyster hwn i gynllunio amserlenni trên er enghraifft. Doedd hynny ddim yn tanio fy niddordeb a bod yn onest. Ar ôl chwilio i weld beth oedd ar gael, fe wnes i gais am swydd yn dadansoddi paent ar gyfrifiadur yn Zurich, un arall am weithio yn y diwydiant amddiffyn ac un arall yn GCHQ. Fel tipyn o gerdyn gwyllt, ac yn dilyn awgrym fy mam bod cotiau gwyn labordy ‘yn draenio lliw o’r wyneb’, gwnes i gais hefyd am swydd ym Manc Lloyds. Gan ystyried bod 1000 o ymgeiswyr am un swydd dan hyfforddiant i raddedigion, doeddwn i ddim yn obeithiol iawn, ond gwnaethon nhw gynnig y swydd i mi. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yn adran cyfrifiaduron Banc Lloyds ac roeddwn i’n syfrdanu’n aml fy mod i’n cael fy nhalu i wneud rhywbeth a oedd yn rhwydd i mi ac yn bleser hefyd. Ond doedd pethau ddim yn hollol ddidrafferth chwaith. Ar un adeg, penderfynais i gyflwyno rhywbeth roeddwn i wedi’i ddysgu ar un o fy modiwlau ym Mhrifysgol Abertawe, sef defnyddio algorithmau i ddidoli data. Ar ôl gwylio’r ffordd eithaf llafurus a hir roedd sieciau’n cael eu prosesu â llaw, roeddwn i’n argyhoeddedig bod yr ateb delfrydol gen i. Treuliais i lawer o amser yn darbwyllo fy nghydweithwyr i o leiaf roi cynnig ar fy nghysyniad ‘didoli swigod’ ac, yn y diwedd, ildion nhw i fy mrwdfrydedd gan sefyll mewn llinell i ddilyn y broses roeddwn i wedi’i disgrifio. Roedd hi’n anhrefn llwyr. Roedd sieciau’n hedfan i bob man fel conffeti. Gwers wedi’i dysgu. Doeddwn i ddim mewn gwirionedd wedi meddwl sut byddai didoli swigod yn gweithio yn yr amgylchedd, a weithiodd hi ddim.

"Wrth wraidd yr hyn roeddwn i am ei wneud roedd awydd i helpu pobl i wella eu perthynas ag arian."

Rydych chi wedi gweithio i nifer o fanciau. Beth wnaeth i chi feddwl bod angen newid y sector?

Dechreuais i feddwl yn ddifrifol am ffordd newydd o fancio yn sgil argyfwng 2008. Ar y pryd, hwn oedd y trychineb ariannol gwaethaf o fewn cof ond, pan oedd yr holl ffwdan wedi tawelu, roedd y banciau mwy neu lai wedi mynd yn ôl i fusnes fel arfer. Roedden nhw’n gweithredu mwy neu lai yn yr un ffordd ag roedden nhw wedi’i wneud ers degawdau, er gwaethaf y datblygiadau digidol a oedd i’w gweld yn newid popeth arall ar gyflymdra anhygoel gyda busnesau megis Uber, Netflix ac Amazon.

Erbyn hynny, roedd y banciau’n darparu rhai gwasanaethau sylfaenol iawn ar-lein ond roedd y gwasanaethau hynny’n bitw iawn o’u cymharu â’r rhai byddech yn eu cael mewn cangen. Yn bwysicaf oll, doedden nhw ddim wedi ymchwilio i anghenion y cwsmer. Roedd llwyddiant y cwmnïau technoleg wedi dangos i mi fod popeth yn dechrau gyda’r cwsmer a’r rheswm pam mae Apple, Amazon a’r holl rai eraill mor llwyddiannus yw eu bod wedi perffeithio eu prosesau cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau. Enghraifft berffaith o sut roedd y banciau’n methu oedd y broses agor cyfrif. Roedd yn broses ofnadwy o hir a rhwystredig. Roedd rhaid mynd i gangen, cael cyfweliad hir a chwblhau llwyth o waith papur ac yna aros am sbel hir nes cyflawni’r nod. Roedd angen rheolau i atal twyll, mae hynny’n wir, ond roedd y banciau’n gwneud y broses yn gymhleth yn ddiangen. Unwaith dechreuais i feddwl fel hyn, gofynnais i mi fy hun faint o brosesau eraill allai gael eu symleiddio i raddau helaeth er mwyn helpu cwsmeriaid banciau i reoli eu harian yn haws.

Wrth wraidd yr hyn roeddwn i am ei wneud roedd awydd i helpu pobl i wella eu perthynas ag arian. Mae pobl yn mynd i ddyledion yn aml am nad oes ganddynt syniad go iawn o’r hyn maen nhw’n ei wario, neu faint sydd ar ôl ganddynt. Pan aiff pethau o chwith, maen nhw’n mynd o chwith o ddifrif a gall fod yn hawdd colli rheolaeth ar y sefyllfa’n gyflym iawn. Roedd gen i weledigaeth am wasanaeth bancio digidol a allai weithredu ar ffôn symudol, dyfais sydd gyda phawb drwy’r amser, lle mae popeth yn agored, yn dryloyw ac yn hawdd i ddeiliad y cyfrif gael mynediad ato.

Mae’n rhaid nad oedd hi’n hawdd sefydlu cwmni i drawsnewid sector fel bancio. Beth oedd yr heriau mwyaf?

Un o’r heriau mwyaf oedd yr un mae pawb sy’n ceisio sefydlu busnes yn ei hwynebu: arian. Yn fy achos i, roedd angen llawer o arian arna i, o bosib, cymaint â £300 miliwn yn ôl fy amcangyfrifon cynnar. Roedd angen yr arian i ddatblygu’r banc ei hun a rhoi’r holl dechnoleg ar waith ond, ar ben hynny, roedd angen digon o arian arnaf i ddarparu ar gyfer newidiadau yn yr arian a oedd yn llifo i mewn ac allan o’r banc o ddydd i ddydd. Fel y gallwch ddychmygu, dyw denu buddsoddwyr ddim yn beth hawdd, yn enwedig i rywun heb  brofiad o fod yn entrepreneur. Yn y dyddiau cynnar, dywedodd cydweithiwr yn y sector bancio wrthyf y byddwn i, mwy na thebyg, yn cyflwyno fy syniad dros 300 o weithiau cyn dod hyd yn oed yn agos at sicrhau buddsoddiad. Doeddwn i ddim yn ei gredu ar y pryd ond dysgais i’n ddiweddarach fod hynny’n agos iawn at y gwir.

Y rhwystr mawr arall roeddwn i’n ei wynebu oedd y system reoliadol. Dyw hi ddim yn syndod bod rhaid i’r rheolau ynghylch pwy sy’n gallu agor banc fod yn eithaf llym. Yn ffodus, ym mis Mawrth 2013, cyflwynodd George Osborne, y Canghellor ar y pryd, nifer o ddiwygiadau i baratoi’r ffordd ar gyfer banciau newydd ar ôl datgan bod system fancio’r DU yn ‘rhy gyfyng’.  Roedd yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) newydd yn ailwampio’r broses newydd i sefydlu banc, gan gwtogi’r broses drwyddedu o ddwy flynedd i flwyddyn yn unig. Hyd yn oed wedyn, roedd hi’n dipyn o gamp bodloni eu holl feini prawf a goresgyn pob rhwystr. Roedd angen cynllunio a dogfennaeth fanwl dros ben.

Adeg ysgrifennu’r erthygl hon, mae cyfyngiadau symud ar y genedl oherwydd COVID-19. Ydy’r cyfnod cloi wedi galluogi Starling i ddangos ei gryfderau?

Mae’r pandemig wedi newid popeth i gartrefi a busnesau yn y DU a’r byd ehangach. O’r dechrau, roeddem yn ymwybodol iawn y byddai pobl yn poeni’n arw am eu sefyllfa ariannol a bod llawer yn wynebu dyfodol ansicr. Dyma’r adeg y cafodd athroniaeth fancio Starling o roi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf, yn hytrach na fel arall, ei phrofi i’r eithaf, yn yr amgylchiadau mwyaf eithafol.

Ein her gyntaf oedd trefnu i’r tîm cyfan allu rhedeg y banc o’u cartrefi. Yn ffodus, fel dywedodd ein prif swyddog gwybodaeth, John Mountain, roeddem wedi dechrau gweithio ar hyn yn ôl yn 2015. Roeddem bob amser wedi dweud y gallai Starling weithredu o liniaduron ac o fewn dyddiau, dangoson ni fod hyn yn wir. Yna dechreuon ni ystyried beth roedd ei angen mwyaf ar ein cwsmeriaid. Un o’r mentrau gwnaethon ni ei lansio o fewn wythnosau i ddechrau’r cyfnod cloi oedd y cerdyn Starling Connected, i helpu pobl a oedd yn hunan-ynysu ac yn dibynnu ar ffrindiau a chymdogion i siopa ar eu rhan. Yma, gall cwsmeriaid cyfrif personol ofyn am ail gerdyn sy’n gysylltiedig â’u cyfrif drwy’r adran Spaces ar yr ap. Gallan nhw roi’r cerdyn hwn a chyfeirnod adnabod personol i rywun maen nhw’n ymddiried ynddo i wario’r arian sydd wedi’i ychwanegu yno. Hefyd, sefydlon ni Gynllun Cymorth Coronafeirws Starling i helpu unigolion mewn angen drwy gynnig cyfnod o dri mis heb angen talu llog ar £500 cyntaf  gorddrafft a drefnwyd. I’n cwsmeriaid busnes, gweithion ni’n galed i sicrhau ein bod yn cael ein hachredu gan Fanc Busnes Prydain fel benthyciwr o dan Gynllun Benthyciad Ymyriad Busnes Coronafeirws (CBILS) sy’n cael ei warantu gan y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu benthyciadau gwerth rhwng £5,000 a £250,000 i fusnesau bach a chanolig sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r argyfwng. Bum wythnos ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai rhagor o gymorth ariannol ar gael i fusnesau bach a chanolig drwy fenthyciadau ‘Bounce Back’ brys gwerth rhwng £2,000 a £50,000 a llwyddon ni i roi’r cynllun hwn ar waith yn Starling ymhen ychydig ddiwrnodau. Mae’r broses yn gyflym hefyd. Mae busnesau bach a chanolig yn dweud eu bod wedi derbyn arian yn eu cyfrif o fewn dwy awr i wneud cais am fenthyciad. Mae hynny’n dda, hyd yn oed yn ôl safonau effeithlon Starling.

Mae gan Starling dros filiwn o gwsmeriaid erbyn hyn ac mae pobl yn dod yn fwy cyfforddus yn rheoli eu harian o’u ffonau. Fydd Starling yn parhau i arloesi yn y farchnad hon?

Mae bob amser wedi bod yn bwysig i mi ein bod yn parhau i arloesi ar ôl i ni dyfu o fod yn fenter newydd i fusnes sefydledig (ond heb fod yn rhan o’r ‘sefydliad’!). Waeth pa mor fawr rydym yn tyfu, dwi ddim eisiau i ni fod yn gorff mawr ac araf nad yw byth yn symud ymlaen nac yn datblygu. Rydym yn mireinio’r ap bob dydd ac mae pob aelod o’r tîm yn cael ei annog i awgrymu syniadau newydd drwy’r amser. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid hefyd. Os ydyn nhw’n dweud ‘pam na wnewch chi roi cynnig ar hwn’ neu ‘ydych chi wedi ystyried hwnnw’ rydym yn ymateb i hynny, pam na fydden ni? Nhw yw’r adnodd ymchwil i’r farchnad gorau sydd gennym. Rydym yn dal i adolygu ein sylfaen cwsmeriaid bob dydd, sut maen nhw’n defnyddio’r ap ac yn rhoi blaenoriaeth i gyflwyno nodweddion newydd sy’n ateb anghenion amlwg.

"Fy nghyngor i unrhyw fenyw sy’n darllen yr erthygl hon fyddai i ymladd yn galed, mynnu’r un driniaeth, ymgeisio am y swyddi uchaf ac i beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to."

Rydych chi’n un o’r ychydig fenywod ar frig y sector bancio a thechnoleg. Oes digon yn cael ei wneud i leihau’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau.

Yr ateb byr yw: nac oes. Mae’n hynod ddiflas i mi o hyd pan fydda i’n mynd i ddigwyddiadau’r sector ac, yn ddi-ffael, dwi’n un o lond llaw o fenywod â rolau uwch mewn grŵp o 100 o ddynion neu fwy. Yn nyddiau cynnar Starling, roedd pobl yn gofyn i mi’n aml beth roeddwn i’n ei ‘wneud’ yn y banc. I lawer yn y sector technoleg ariannol, roedd hi’n amhosib deall mai fi oedd y bos. Ac mae hwn i fod yn sector blaengar.

Dwi wedi dod i arfer â’r ffaith bod rhagfarn ddiarwybod ym mhob man, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod i’n derbyn hynny. Rwy’n eiriolwr angerddol dros fenywod ac yn gwneud popeth y gallaf i’w cefnogi fel y bydd rhagor o fenywod yn ymuno â rhengoedd yr entrepreneuriaid a pherchnogion busnes benywaidd. Fy nghyngor i unrhyw fenyw sy’n darllen yr erthygl hon fyddai i ymladd yn galed, mynnu’r un driniaeth, ymgeisio am y swyddi uchaf ac i beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to. Os bydd digon ohonon ni’n gwneud hyn, dwi’n obeithiol y bydd y neges yn cael ei chlywed yn y pen draw.

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried astudio yn Abertawe?

Mae llawer o bobl yn dweud bod Abertawe’n fynwent breuddwydion. Mae pobl yn mwynhau eu hamser yma cymaint ac yn manteisio ar yr holl gyfleusterau hamdden yn Abertawe a’r lleoliad gwych, sy’n golygu nad ydyn nhw byth yn gadael. Ond i mi, roedd yn gyfle go iawn. Dyna’r tro cyntaf lle’r oedd astudio, amgylchedd academaidd ac oriau hir yn y llyfrgell yn rhywbeth normal. Roedd popeth mor hygyrch. Roedd pob math o gyfleuster astudio o fewn cyrraedd ac roedd hi’n wych. Cyflawnais i lawer yn ystod fy nhair blynedd yno a gwnaeth hynny fy nhrawsnewid.