Peter Stead yn sgwrsio ag Elaine Canning – Cyfweliad y Canmlwyddiant

Allech chi ddweud wrthym ychydig am le y cawsoch chi’ch magu ac am eich blynyddoedd yn yr ysgol yn Nhregŵyr, Abertawe?

Ces i fy ngeni yn y Barri ym 1943 ac am dair blynedd ar ddeg roeddwn i’n byw ar ben bryn mwyaf llethrog y dref mewn tŷ â golygfeydd gwych draw i Exmoor. Roedd y tŷ hwnnw ychydig yn uwch yn yr un stryd a ddaeth yn enwog flynyddoedd wedi hynny am fod yn un o brif leoliadau’r gyfres gomedi deledu Gavin and Stacey. Ym 1957, cafodd fy nhad, a oedd yn blismon, ddyrchafiad a symudon ni i Dregŵyr ar ochr arall y wlad. Ar ôl dwy flynedd a hanner yn Ysgol Ramadeg y Barri i Fechgyn, symudais i i’r trydydd dosbarth yn yr ysgol gyfatebol yn Nhregŵyr.

Yn y cyfnod hwnnw roedd Tregŵyr yn dal i fod yn bentref diwydiannol i raddau helaeth, yn hytrach na maestref i Abertawe, ac roedd bywyd yn cylchdroi o gwmpas ei weithfeydd dur, y clybiau rygbi a chriced, ei dair tafarn a’i bum lle addoli. Er hynny, roedd Abertawe taith fer yn unig i ffwrdd (ar y bws neu ddwy linell rheilffordd) ac roedd y dref yn gyfarwydd gan ein bod wedi treulio dau gyfnod gwyliau fel teulu yng nghartref ffrind a oedd yn byw ger Neuadd y Ddinas. Fel ymwelydd ifanc, roeddwn i wedi cael fy hudo ar unwaith gan y glannau gyda’r trenau i Fanceinion, y tram sigledig i’r Mwmbwls, y gemau ar gaeau enwog y Vetch San Helen a’r gerddoriaeth yn Neuadd Brangwyn. Ychydig a feddyliwn i y byddwn i’n treulio llawer o’m bywyd ar ôl hynny’n byw bywyd i’r eithaf ym 'Mae ysblennydd' Dylan.

Roeddwn i’n dwlu ar fy mhedair blynedd a hanner yn Ysgol Tregŵyr. Roeddem ni i gyd yn ymwybodol mai rygbi a cherddoriaeth glasurol oedd yn sylfaen enw da’r ysgol, a’r rhestr hir o gyn-ddisgyblion disglair a oedd wedi chwarae dros Gymru neu ddod yn gyfansoddwyr, yn ogystal â’r XV Cyntaf a cherddorfa’r ysgol (gan gynnwys Karl Jenkins), a wnaeth gwblhau’r ymdeimlad a oedd gennyf o addysg wedi’i thrwytho mewn diwylliant cyfoethog o’r dyniaethau. Y ddwy flynedd yn y Chweched Dosbarth a bennodd y gwerthoedd academaidd, diwylliannol a chymdeithasol a luniodd fy holl fywyd. Cafodd fy nghariad dilynol at deithio’n rhyngwladol ei feithrin yn y gwersi Daearyddiaeth; roeddwn i’n awyddus i ymweld â phob gwlad a nodwedd a astudiwyd. Rydw i’n ddyledus am gymaint i’r athrawon Saesneg, er eu cof rydw i’n dal i adrodd darnau helaeth gan Chaucer, Wordsworth a Browning. Ces i fy mhrofiad gwleidyddol cyntaf fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol Ffug ym 1969, ac atodi tasl y swyddog i’m cap ysgol a wnaeth imi feddwl yn gyntaf y dylwn i ystyried mynd i’r Brifysgol.

Pam gwnaethoch ddewis astudio Hanes yn Abertawe?

Byddai’n rhaid imi ddewis hanes fel pwnc. Roeddwn i’n dwlu ar y naratif ac roedd popeth yn aros yn y cof; wedi darllen rhywbeth unwaith, roeddwn i’n ei ddeall ac yn gallu ei ddwyn i gof yn hawdd. Cynigiwyd lle imi ym Mhrifysgol Caerdydd ac roeddwn i ar restr yr ymgeiswyr wrth gefn ar gyfer Nottingham. Ond roeddwn i’n gwybod bod fy rhieni am imi ddewis Abertawe a chymaint oedd enw da'r Athro Glanmor Williams, heb sôn am yr Elyrch, y Crysau Gwynion a Chriced Morgannwg, doeddwn i ddim yn gweld llawer o ddiben bodloni ar ddim byd llai.

"Mae fy ngyrfa wedi rhoi imi gyfle digonol i fyfyrio ar y buddion niferus y mae bywyd ar Barc Singleton wedi eu gwarantu."

Allwch chi ddweud wrthym am eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, fel disgybl ac aelod staff?

Cyrhaeddais i Barc Singleton fel ‘glas fyfyriwr’ ym 1961, graddio ym 1964 ac ar ôl dwy flynedd fel myfyriwr ôl-raddedig, ymuno â’r staff ym 1966, gan ymddeol o’r Adran Hanes yn y diwedd ym 1997. Mae fy mhenodiad fel Cymrawd er Anrhydedd yn golygu bod fy nghysylltiad â Phrifysgol Abertawe wedi parhau am bron trigain mlynedd. Mae fy ngyrfa wedi rhoi imi gyfle digonol i fyfyrio ar y buddion niferus y mae bywyd ar Barc Singleton wedi eu gwarantu.

Yn gynnar ym 1962 ar ddechrau fy ail dymor, gwnaeth yr Heddlu drosglwyddo fy nhad a chartref fy nheulu i Bontypridd ac roeddwn i’n ffodus i gael lle yn Neuadd Sibly, neuadd ar y campws a oedd wedi agor bedwar mis ynghynt. Byddwn i’n treulio dwy flynedd israddedig ‘mewn neuadd’ a nes ymlaen, pan oeddwn i’n ddarlithydd, pedair blynedd yn gyfagos yn Neuadd Lewis Jones fel tiwtor.

Yn gyntaf, roeddwn i wedi fy syfrdanu gan nifer y myfyrwyr yn y neuadd a oedd wedi dod o ysgolion gramadeg a phreswyl yn Lloegr. Roedd fy ffrindiau newydd yn hanu o’r cefndir hwnnw’n bennaf, ac mewn gwirionedd byddai fy nghyfeillion oes agosaf yn dod o ysgolion Seisnig da ond roeddent yn feibion i dadau o Gymru, proffil sydd wedi rhoi i Abertawe lawer o’i myfyrwyr gorau. Yn ystod fy mlynyddoedd israddedig, dechreuais i deimlo fy mod yn dysgu cymaint gan fy nghyd-fyfyrwyr â chan ddarlithoedd. Gan fyw ar y campws, roeddwn i bob amser yn dysgu am yr hyn oedd yn mynd ymlaen mewn pynciau eraill a dysgais i sut i adnabod y darlithwyr a’r ysgolheigion mwyaf disglair mewn cyfadrannau eraill. Gwnaeth yr ymdeimlad hwn o berthyn i gymuned fach o ysgolheigion ddwysáu pan ddes i’n diwtor - ar y pryd, roeddwn i’n byw gyda grŵp o ddarlithwyr o adrannau eraill ac yn cwrdd â’u gwesteion yn ystod ciniawau ffurfiol gyda’r nos. Dyma sut cwrddais i â chydweithwraig o’r Adran Fathemateg a ddaeth yn wraig imi ym 1971. Ar ôl i mi esbonio fy mod yn ‘arbenigwr ar Derfysgoedd Tonypandy’, atebodd hi ei bod yn ‘fyfyrwraig y Cyfanfyd’!

Roedd Parc Singleton yn ehangu fy ngorwelion byth a beunydd. Gwnaeth yr Adran Hanes fy annog i dreulio amser yn Llundain am lawer o’m hail flwyddyn ôl-raddedig ac yn ddiweddarach am gyfnodau pellach i ymchwilio mewn archifau yn Llundain. Gwnaethant ganiatáu imi dreulio dwy flynedd wahanol yn Unol Daleithiau America ar Gymrodoriaethau Fulbright ac i fynychu nifer o gynadleddau academaidd yn Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, yr Eidal ac Awstria. Yr ymdeimlad hwn o berthyn i gymuned ryngwladol o ysgolheigion yw’r rhodd fwyaf mae gyrfa academaidd yn ei chynnig.

P’un yw eich atgof mwyaf hyfryd?

Efallai ei bod hi’n anochel fy mod yn meddwl am Barc Singleton yn y ffordd orau bosib. Cwrddais i â’m darpar-wraig yno a chafodd gwledd ein priodas ei chynnal yn Ystafell Fwyta Tŷ Fulton. Ces i fy addysgu gan sawl ysgolhaig rhagorol ac roedd rhai o’m cydweithwyr yn ffrindiau agos ond hefyd byddent yn sicr o gael eu hystyried i fod ar fy rhestr o ‘gymeriadau mwy bythgofiadwy’.

Yn fy nyddiau cynnar, roeddem ni’n ymwybodol o ddimensiwn Kingsley Amis (roedd ef wedi gadael ychydig cyn imi gyrraedd) ac roeddem ni bob amser yn clywed mai 'hwn a’r llall' oedd y model am Lucky Jim. Am ryw ddegawd roedd yr holl drafodaeth yn ymwneud â ‘nofel y campws’ a oedd yn go ffasiynol - efallai gwnaethom ni ddechrau ymddwyn fel pe tasen ni’n gymeriadau yn yr hyn a fyddai’r enghraifft orau a mwyaf doniol o’r genre, siŵr o fod, unwaith y byddai’n cael ei hysgrifennu! Blynyddoedd o chwerthin oedd y rhain: roedd athro a’i wraig a oedd yn arfer torheulo’n noeth, a straeon di-rif am deithiau myfyrwyr i Blas Gregynog. Gwnaeth sawl tyst sylwi ar sut, bob tro y cwrddais â ffrind o’r Adran Economeg ar y Rhodfa, byddem yn cwympo ym mreichiau ein gilydd dan chwerthin.

Peter Stead gyda Kayo Chingonyi, enillydd 2018 o wobr ryngwladol Dylan Thomas.

Rydw i’n gwybod eich bod chi bob amser wedi bod wrth eich bodd â llenyddiaeth, a gwnaeth eich cariad at ddarllen a llyfrau eich arwain at sefydlu Gwobr Dylan Thomas. Pam roeddech chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig sefydlu gwobr lenyddiaeth ryngwladol i awduron ifanc?

Erbyn y 1990au, roeddwn i wedi dod yn ddarllenydd brwd nofelau Prydeinig ac Americanaidd, ac yn gefnogwr brwd sinema, theatr ac opera. Yng Nghymru, roedd ymwybyddiaeth gynyddol o rôl diwylliant mewn adfywio dinesig, ac fel aelod o wahanol bwyllgorau ym myd y celfyddydau yn ogystal â bod yn ddarlledwr, roeddwn i’n ymwybodol iawn o’r awydd i awduron, artistiaid, gwneuthurwyr ffilmiau a cherddorion o Gymru greu argraff ar y llwyfan rhyngwladol. Yn Abertawe, roedd y rheiny a oedd yn delio ag adfywio yn edrych yn fwyfwy ar ffyrdd o ddefnyddio enw da rhyngwladol Dylan Thomas er lles y ddinas a’i thrigolion.

Ym 1994, arhosais i am sbel yn nhref gwyliau Viareggio yn Nhysgani. Ym 1822 yn y dŵr oddi ar Viareggio roedd y bardd Shelley, a oedd yn 29 oed, wedi colli ei fywyd, ac wrth fynd am dro un diwrnod, des i o hyd i blac a oedd yn coffáu ei amlosgiad ar y traeth, ac wedyn yn gyfagos hysbysiad a oedd yn hysbysebu Gwobr Viareggio bresennol am nofelau newydd. Sylwais i â diddordeb ar un o nodweddion y Wobr honno, sef y gofyniad i bob un o’r chwe awdur ar y rhestr fer ddod i’r dref i ddarllen o’i waith. Hon, wrth gwrs, oedd yr union foment imi gael y syniad am Wobr Ryngwladol Dylan Thomas. Dylai Abertawe ddefnyddio enw Dylan er mwyn dod â’r awduron gorau yn y byd i’r ddinas, a bob blwyddyn byddai’r newyddion am rôl Abertawe wrth noddi ysgrifennu newydd, yn ogystal ag enwau’r ymgeiswyr posibl o Gymru, yn mynd i bob cwr o’r byd. Nodwedd unigryw'r Wobr, yn ôl fy nghysyniad i ohoni, oedd y byddai ar agor i awduron ffuglen, barddoniaeth a sgriptiau newydd, gan adlewyrchu natur amryddawn Dylan ei hun felly.

Dychwelais i i Abertawe a dechrau datblygu fy syniad. Ymhen hir a hwyr, ar ôl sawl blwyddyn o ymdrechu gan grŵp bach o bobl frwdfrydig a oedd wedi penodi Bwrdd yn gyntaf, penodi swyddog a derbyn statws elusennol, cafodd Gwobr Dylan Thomas ei lansio yn 2005. Nesaf roedd digwyddiadau i godi arian yn Llundain ac Efrog Newydd. Ac ar ôl naw mlynedd o gefnogaeth o wahanol gyfeiriadau, dechreuodd Prifysgol Abertawe reoli’r Wobr ym 2014.

"Mae’r enwau Dylan Thomas, Prifysgol Abertawe a’r Wobr bellach yn adnabyddus iawn ym mhobman lle mae awduron ifanc yn cymryd y camau cyntaf i ennill cydnabyddiaeth."

Mae gan y wobr agwedd addysgol bwysig ar ei gwaith trwy ei rhaglen DylanED. Allwch chi ddweud ychydig wrthym am wreiddiau DylanED?

Roedd y grŵp bach a greodd Wobr Dylan Thomas wedi’i gyffroi oherwydd yr enillydd cyntaf, a enillodd £60,000 ar y pryd, oedd Rachel Tresize o’r Rhondda a gurodd gystadleuaeth gref gan restr fer ryngwladol ddisglair. Ond roedd y cyfarwyddwyr yn dymuno mwy: ar wahân i wobrwyo awduron ifanc dan 29 oed, roeddem ni am i’r Wobr ddal dychymyg awduron ifancach byth yng Nghymru. Ac felly dechreuodd DylanED - byddai’n cynnwys plant ysgol lleol yn uniongyrchol yn rhaglen flynyddol y Wobr. Dros y blynyddoedd mae’r rhaglen wedi cymryd sawl ffurf, gan gynnwys yr awduron ar y rhestr fer yn ymweld â dosbarthiadau ysgol, gweithdai celf ar gyfer plant ysgol gynradd, a chystadlaethau adolygu. Mae Prifysgol Abertawe a’r Bwrdd yn hollol ymrwymedig i bolisi o estyn ac ehangu agwedd hon y Wobr.

Ar yr un pryd, mae’r Wobr wedi bod yn sail i fodiwl yn rhaglen gradd Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol. Mae’r fenter arloesol hon yn hollol gyson â nodau gwreiddiol sefydlwyr y Wobr a oedd yn ymwybodol iawn o’r cyrsiau Ysgrifennu Creadigol poblogaidd dros ben sydd wedi cael eu sefydlu ym mron pob Prifysgol cyfrwng Saesneg. Mae’r enwau Dylan Thomas, Prifysgol Abertawe a’r Wobr bellach yn adnabyddus iawn ym mhobman lle mae awduron ifanc yn cymryd y camau cyntaf i ennill cydnabyddiaeth. O’r cychwyn, agwedd fwyaf cyffrous y Wobr oedd gweld grŵp o awduron ifanc yn cyrraedd Abertawe’n rheolaidd o bedwar ban byd. Pa ysbrydoliaeth ac anogaeth well allai fod i fyfyrwyr y Brifysgol ac ysgolion lleol?

Beth byddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried Abertawe fel lle i astudio?

Heb os, Abertawe yw’r Brifysgol â’r lleoliad gorau yn y wlad. Mae’r Bae, Penrhyn Gŵyr a’r bryniau cyfagos yn llawn sŵn barddoniaeth a cherddoriaeth. Mae’n rhaid inni sicrhau bod myfyrwyr, ysgolheigion, awduron a pherfformwyr yn dymuno dod i Abertawe i gyfranogi yn ei rôl o siarad â’r genhedlaeth bresennol mewn ffordd glir, wreiddiol a chyffrous. Mae’n rhaid i Brifysgol siarad â’r byd a gwneud iddo feddwl.

Sut byddech chi’n eich disgrifio’ch hun â thri gair? 

PETER STEAD      ' BRWDFRYDIG, DIGRIFWR, RHAMANTWR.