Siwan Lilicrap

Siwan Lilicrap

BSc Gwyddor Chwaraeon, Dosbarth o 2009.

Arweinydd, Mentor, Hyfforddwr, Air Row.

Sut gwnaethoch chi ddechrau ymddiddori mewn Rygbi?

Treuliais i’r mwyafrif o benwythnosau fy mhlentyndod yng Nghlwb Rygbi Waunarlwydd yn gwylio fy nhad yn hyfforddi a’m brawd yn chwarae. Dyma le cychwynnodd fy nghariad at y gêm a'r bobl sy’n ymwneud â hi. Yn anffodus, nid oedd unrhyw dimau merched iau lleol, ond roeddwn yn ysu am ymuno â thîm Menywod Waunarlwydd. Roedd fy mam yn bendant fy mod yn gorfod aros nes fy mod yn 17 oed oherwydd elfen gorfforol y gêm, felly’r wythnos ar ôl fy mhen-blwydd yn 17 oed es i sesiwn hyfforddi ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach chwaraeais fy ngêm gyntaf. Y tymor canlynol, dechreuais yn y Brifysgol a pharhau i ddatblygu fy ngêm a’m cariad at rygbi a'r cyfeillion y mae wedi eu rhoi i mi.

Rydych chi wedi mynd o chwarae i dîm Rygbi'r Brifysgol i fod yn Bennaeth Rygbi'r Brifysgol. A oedd y newid o fod yn chwaraewr i fod yn hyfforddwr yn un hawdd?

Roedd y trawsnewidiad yn un eithaf hawdd. Ar ôl graddio treuliais gyfnod fel llywydd yr Undeb Athletau. Bûm hefyd mewn gwahanol rolau o fewn y Brifysgol cyn dod yn Bennaeth Rygbi. Mae'r holl brofiadau gwahanol hyn wedi dysgu llawer o wersi gwerthfawr i mi. Rwyf wedi casglu gwybodaeth sydd wedi fy helpu i fod â'r hyder i dyfu i mewn i’m rôl bresennol fel Pennaeth Rygbi.

Rydych chi'n arwain y rhaglenni perfformiad elît ar gyfer gêmau'r Menywod a Dynion yn y Brifysgol. Does dim llawer o hyfforddwyr benywaidd mewn safleoedd o arweinyddiaeth, ond a ydych chi'n teimlo bod pethau'n dechrau newid?

Mae pethau'n dechrau newid ym myd rygbi. Nid oes llawer o hyfforddwyr benywaidd ar hyd y lle ond yn bendant mae mwy nawr nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl. Rygbi menywod yw’r gamp sydd wedi tyfu gyflymaf yn y byd yn ddiweddar, a chredaf fod hynny wedi cynorthwyo menywod i fod â’r hyder i ymgymryd â rolau hyfforddi.

Fe wnaethoch chi raddio yn 2009 gyda gradd mewn Gwyddor Chwaraeon. Ydych chi'n defnyddio'ch gradd yn eich swydd bob dydd ?

Mae agweddau ar fy ngradd Gwyddor Chwaraeon yn fy nghynorthwyo i gyflawni fy rôl i lefel well. Rwy'n ceisio cadw i fyny gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a mentrau newydd yn y maes. Mae modiwlau o’m cwrs gradd fel cryfder a chyflyru, ffisioleg, seicoleg a biomecaneg yn cynorthwyo gyda datblygiad chwaraewyr; mae adnabod y myfyrwyr fel athletwyr a'r ffordd y mae'r corff yn ymateb i lwyth hyfforddi yn helpu i wella perfformiad.

Roeddech chi yn y Brifysgol ar yr un pryd ac mae'r ddau ohonoch ar hyn o bryd yn gapten ar ochrau hŷn Cymru. Ydych chi'n cymharu nodiadau gydag Alyn Wyn Jones ac yn dymuno pob lwc i'ch gilydd ar gyfer gêmau’r chwe gwlad?

Mae Alun Wyn yn fodel rôl gwych ac mae gen i barch enfawr tuag ato. Mae ganddo yrfa rygbi broffesiynol hynod lwyddiannus, mae'n arweinydd gwych ac mae ganddo lawer i record ryngwladol. Mae hi bob amser yn braf sgwrsio ag Al ond fel arfer mae'n fater o “helo” cyflym a “sut mae pethau?” gan mai fel arfer sgwrs wrth basio yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol adeg sesiwn hyfforddi ydyw.

siwan lilicrap walking onto the pitch at Principality stadium, Cardiff

Cymerodd amser hir i chi gael eich cap cyntaf dros Gymru. O edrych yn ôl, a yw'r profiad hwnnw'n un gwerthfawr wrth i chi gefnogi’r chwaraewyr cyfredol sydd gennych o dan eich gofal yn y Brifysgol?

Rwy'n credu bod popeth yn digwydd am reswm. Roedd yn rhaid i mi weithio'n hynod o galed a bod yn benderfynol i wireddu fy mreuddwyd o wisgo crys Cymru. Mae'r rhwystrau hyn hefyd wedi fy helpu i gyflawni pethau y tu hwnt i'm breuddwydion. Mae'r profiadau hyn yn fy helpu i ddeall hynt pobl eraill. Gallaf hefyd rannu fy mhrofiadau a chynnig cyngor i rai o'n myfyrwyr a allai fod mewn sefyllfaoedd tebyg ac sydd â dyheadau i ddod yn chwaraewyr rygbi proffesiynol neu i gynrychioli eu gwledydd.

Sut ydych chi'n cydbwyso'r swydd bob dydd gyda'ch gyrfa ryngwladol?

Mae'n anodd iawn cydbwyso gwaith amser llawn â cheisio bod yn athletwr elît. Ni fyddwn yn gallu gwneud hyn heb gefnogaeth fy nheulu sy'n fy helpu mewn unrhyw ffordd bosibl, fel fy helpu gyda fy ngolch, y glanhau a choginio pan fyddaf allan o'r tŷ am 16 awr y dydd. Mae hefyd yn helpu i gael cyflogwr sy’n deall ac sy'n ceisio fy helpu a'm cefnogi gyda'm gofynion rygbi y tu allan i'r gwaith. Gall fod yn anodd iawn, ond rwy'n cyfrif fy hun yn wirioneddol lwcus a ffodus i gael swydd rwy'n ei charu ac i allu cystadlu ar lefel ryngwladol yn y gamp rwy'n ei charu hefyd.

Mae Abertawe wedi cynhyrchu chwaraewyr Rygbi gwych dros y blynyddoedd. A oes unrhyw sêr y dyfodol yn dod trwy dimau'r Brifysgol?

Rwy'n credu fy mod yn dangos tuedd siŵr o fod, ond yn bendant mae yna rai yn dod trwy grwpiau perfformiad uchel y dynion a’r menywod. Mae Courtney Keight a Ruth Lewis wedi ennill capiau yn ddiweddar ar gyfer menywod hŷn Cymru ac mae llawer o ferched eraill sydd ar y lefel ranbarthol. Mae Brandon Wood wedi cynrychioli Cymru 7 bob ochr y tymor hwn, ac roedd hefyd yn cynrychioli ochr ddatblygu’r Gweilch ochr yn ochr â Josh Moore, Max Naggi, Gwyn Parks, Phil Jones a Garin Lloyd, pob un ohonynt wedi chwarae i SURFC yn y Super Rugby BUCS y tymor hwn. Chwaraewr i gadw llygad arno yw Scott Jenkins a newidiodd yn ddiweddar o fod yn brop i fod yn wythwr ac sydd wedi bod yn rhagorol trwy gydol y tymor. Wrth i'n rhaglen perfformiad uchel ddatblygu, rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr athletwyr sy'n dod i Brifysgol Abertawe, ond hefyd gwelliannau a llwyddiannau o ran y chwaraewyr unigol tra'u bod nhw gyda ni a'u datblygiad trwy gydol y rhaglen.