Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio cynnig bwyd ffres, iach a chynaliadwy y gallwch chi ymddiried ynddo. Mae ein tîm Gwasanaethau Arlwyo'n defnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol, moesegol sy'n gyfrifol tuag at yr amgylchedd. Rydym yn cynnwys meini prawf iechyd, lles a chynaliadwyedd yn ein harlwyo, fel y nodir yn ein Polisi Bwyd Iach Cynaliadwy . Rydym yn gweithio i gyflawni hyn a chaiff cynnydd ei fonitro mewn cyfarfodydd arlwyo rheolaidd.
Achrediadau Bwyd Cynaliadwy
Yn 2022, dyfarnodd y Sustainable Restaurant Association radd 1 seren i Brifysgol Abertawe yn eu hachrediad 'Food Made Good' ar gyfer y rhan fwyaf o'n mannau arlwyo ar y campws, ac rydym yn gweithio'n galed gyda'r Gwasanaethau Arlwyo i wella hyn i 2 seren.
Gwnaethon ni hefyd ennill y Wobr Prifysgol Masnach Deg yn 2023, am weithredu i wreiddio arferion moesegol a chynaliadwy yn y cwricwlwm, yn ein gweithgarwch caffael ac ymchwil ac yn ein hymgyrchoedd.
Dim Gwastraff ac Allyriadau
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein timau Arlwyo a Chynaliadwyedd yn gweithio mewn partneriaeth i atal gwastraff o'n mannau arlwyo ar y campws. Rydym yn cyflawni hyn mewn sawl ffordd:
- Rydym yn gweithio'n agos gyda Discovery, elusen y Brifysgol sy'n cael ei harwain gan wirfoddolwyr, a'r elusen gymunedol Goleudy i ddosbarthu bwyd a fyddai wedi cael ei wastraffu i fyfyrwyr a staff am gostau fforddiadwy er mwyn helpu i leihau gwastraff a thlodi bwyd.
- Mae ein mannau arlwyo'n cynnig gostyngiad ar ddiodydd poeth mewn cwpanau y gellir eu hailddefnyddio.
- Rydym wedi newid i becynnu, llestri a chyllyll a ffyrc effaith is fel rhan o'n cenhadaeth i gael gwared ar blastigion untro.
- Rydym yn defnyddio biniau ailgylchu didoli wrth waredu yn ein holl fannau bwyd a thrwy gydol y campws. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau ailgylchu ar ein tudalennau gwe gwastraff.
- Darperir biniau ailgylchu ar wahân yn ein mannau arlwyo, yn benodol ar gyfer casglu ac ailgylchu cwpanau defnydd untro.
- Caiff ein gwastraff bwyd ei gasglu a'i anfon i'w dreulio'n anaerobig.
- Mae ailgylchu Tetra Pak wedi cael ei gyflwyno ar gyfer mannau arlwyo ar y campws.
- Rydyn ni wedi cyflwyno cynllun gwaddodion coffi sy'n annog staff a myfyrwyr i fynd â'r gwaddodion coffi adref i'w defnyddio yn eu gerddi. Mae'r gweddillion yn cael eu defnyddio gan dîm tiroedd y Brifysgol.
- Cyflwynwyd cynllun "Too Good to Go" yn ein holl fannau arlwyo, gan arbed dros 3,400 o brydau bwyd ac 8,500kg o CO2 ers 2021.
- Caiff cegin gymdeithasol ei hagor yn fuan er mwyn addysgu staff a myfyrwyr am goginio cynaliadwy ac iach ac osgoi gwastraffu bwyd.
- Mae ein cerbydlu ar y campws yn cynnwys Cerbydau Di-allyriadau.
Tyfu bwyd ar y campws
Mae ein prosiect tyfu ar y campws “Tyfu Tawe”, sy’n cael ei gefnogi gan gronfeydd buddion cymunedol ac NUS Student Eats, yn darparu lle i'n cymuned ddysgu am dyfu llysiau ar y campws. Mae'r manteision i'r meddwl, y corff a'r amgylchedd o dyfu eich bwyd eich hun yn hysbys, felly Cymerwch Ran gyda Tyfu Tawe.
Yn ogystal â phrosiect Tyfu Tawe, mae’r Tîm Cynaliadwyedd wedi bod yn gweithio drwy gydol 2021 i greu ac i ddarparu perllan gymunedol i staff, myfyrwyr, ac ymwelwyr ei mwynhau. Hyd heddiw, mae cyfanswm o 28 o goed ffrwythau wedi’u plannu ar ein dau gampws gyda chymorth staff a myfyrwyr gan gynnwys coed afalau, coed eirin, coed gellyg, coed eirin hirion, a ffigysbrennau. Daeth y cyllid ar gyfer y prosiect hwn trwy gymysgedd o ddyraniad o’r gyllideb Prifysgol Gynaliadwy a Chronfa’r Economi Gylchol Cymru.
Mae Ben, ein Swyddog Bioamrywiaeth, hefyd wedi bod yn gweithio gyda thîm y prosiect a staff yn IMPACT i ddatblygu ac i reoli wal werdd fyw. Mae’r wal fyw yn cefnogi rhywogaethau brodorol a nod y prosiect peilot hwn yw dangos sut y gallwn ni ddatblygu rhagor o waliau byw a chynnwys bwyd cynaliadwy yn rhan allweddol o hynny.