Caffael Cadarnhaol

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn prynu ystod eang o nwyddau a gwasanaethau o ddeunydd ysgrifennu ac offer ymchwil i wasanaethau teithio a TGCh.

Mae gan ein penderfyniadau prynu oblygiadau pwysig ar gyder datblugy cynaliadwy

Rydym yn ymwybodol o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol popeth rydym yn ei brynu a'r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio drwy gydol eu cylchoedd bywyd.

Er enghraifft:

Myfyrwraig yn siopa am ffrwythau a llysiau ffres

Dyna pam rydym yn ymrwymedig i gaffael cadarnhaol. Golyga hyn:

  • Dileu neu leihau effeithiau negyddol ac uchafu’r manteision, pan fyddwn yn dewis a ddylem brynu neu beth y dylem ei brynu, neu pa wasanaethau i'w defnyddio
  • Gweithio gyda'n cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau i leihau effeithiau a chodi safonau mewn ffordd gyfrifol

Polisi a Strategaeth Caffael Cynaliadwy

Mae gan dimau Cynaliadwyedd a Chaffael Prifysgol Abertawe ymrwymiadau Strategaeth Cynaliadwyedd ar y cyd i gynnwys caffael cadarnhaol yn ein polisi a’n trefniadau caffael gan ddilyn arweiniad Caffael Cynaliadwy. Mae ein Polisi Caffael Cynaliadwy yn amlinellu ein gofynion i ymgorffori cynaliadwyedd, moeseg, iechyd a lles ym mhob agwedd ar brynu yn y brifysgol.