Miloedd o boteli plastig gwag.

Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon ar gyfer Gwastraff

Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyflawni Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon ar gyfer y Brifysgol sy'n cydnabod ein lleihad mewn gwastraff o flwyddyn i flwyddyn, a'n hymrwymiad i reoli gwastraff mewn modd mwy effeithiol trwy gynyddu camau atal, ailddefnyddio neu ailgylchu. Cenhadaeth yr Ymddiriedolaeth Garbon yw cyflymu'r broses o symud i economi garbon isel gynaliadwy ac mae ein hymdrechion i leihau gwastraff wrthi'n ein helpu i baratoi'r ffordd tuag at y nod hwnnw.

Gyda chymorth ein darparwr rheoli gwastraff, Veolia, llwyddodd y Brifysgol i leihau cyfanswm ein hôl troed carbon 15% rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Awst 2000. Helpodd hyn i’r Brifysgol dderbyn Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Carbon a dyfarnwyd sgôr o 75% i’n harferion rheoli gwastraff enghreifftiol yn yr asesiad ansoddol, o’i gymharu â’r marc pasio o 60%.

Yn ystod y flwyddyn academaidd diweddaraf, gwyrodd y Brifysgol 68% o’r holl wastraff a gynhyrchwyd trwy ei anfon i adfer ynni, trwy barhau i yrru gwastraff i fyny’r hierarchaeth wastraff, gan sicrhau bod pwyslais yn cael ei roi ar atal gwastraff, ailddefnyddio, ac ailgylchu.

Mae asesiad yr Ymddiriedaeth Garbon yn rhoi inni gydnabyddiaeth annibynnol o leihad gwastraff y Brifysgol, a'i gwerthoedd rheoli gwastraff ac mae'n cydnabod cynnydd Abertawe wrth roi prosesau llywodraethu, mesur gwastraff a rheoli gwastraff ar waith. Cynhelir y cyfnod ardystio o 2020 tan 2022.

Darllenwch ragor am ein hymdrechion ar ein tudalennau gwe gwastraff.

Rhannu'r stori