Menter Labordai Cynaliadwy

Mae academyddion wedi bod yn cwmpasu cynaliadwyedd yn eu gwaith. Fel prifysgol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil, mae gan Abertawe nifer sylweddol o labordai a gweithdai arbenigol iawn sy'n dibynnu ar ynni, deunyddiau a chyfarpar ac yn cynhyrchu amrywiaeth eang o wastraff.

Er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, ymunodd mwy na 150 o aelodau staff sy'n gweithio mewn labordai yn y Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth a'r Ysgol Feddygaeth ym menter LEAF ochr yn ochr â sefydliadau blaenllaw eraill megis Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt a Sefydliad Francis Crick.

Ar ôl eu hail flwyddyn yn defnyddio'r adnodd, enillodd 17 o labordai Abertawe safon efydd ac enillodd un ohonynt safon arian ar ôl gwneud cyfres o newidiadau i'r ffordd roedd staff yn gweithio.

Mae'r adnodd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr arloesi, datblygu a gweithredu eu hymagwedd eu hunain cyn rhannu canfyddiadau ac arferion gorau. Er enghraifft, mae cau'r lwfrau mwg yn fwy yn y labordai cemeg wedi arwain at leihau costau a C02 yn sylweddol.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae'n wych gweld cynnydd ein Prifysgol mewn maes mor bwysig, diolch i ymdrechion cynifer o aelodau staff yn ein sefydliad. Dyma gyflawniadau y gall ein staff a'n myfyrwyr ymfalchïo ynddynt.”

Ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn y nawfed safle yn y DU yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet a gyhoeddir gan The Guardian. Dywedodd yr Athro Boyle fod y Brifysgol yn awyddus i wneud mwy er mwyn defnyddio adnoddau mewn modd mwy cynaliadwy ac effeithlon.

Meddai: “Rydym yn adeiladu ar y gwaith ardderchog hwn drwy ddatblygu Strategaeth Cynaliadwyedd a fydd yn llywio'r Brifysgol am y pum mlynedd nesaf ac yn ein helpu i symud tuag at ein nod sylfaenol o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2040.”

Rhannu'r stori