Ni ddylai neb byth fod yn agored i drais, camdriniaeth neu esgeulustod.
Ac eto mae miliynau o bobl ledled y byd yn parhau i wynebu trais yn eu cartrefi, eu hysgolion, eu cymunedau ac ar-lein. Mae trais yn digwydd ar sawl ffurf: yn emosiynol, yn gorfforol, yn rhywiol; a gall effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'i oedran, ei ryw, ei grefydd neu’i ethnigrwydd. Gall ei effeithiau barhau am oes gyfan.
PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM HEDDWCH, CYFIAWNDER A SEFYDLIADAU CADARN?
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â heddwch a chyfiawnder a meddu ar sefydliadau cadarn.
I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.