Mae gan ein hystâd ym Mhrifysgol Abertawe ddau gampws bywiog ar lan y môr – y Bae a Pharc Singleton.
Mae ein tîm profiadol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau rheoli ystadau a chyfleusterau ardderchog, ac yn cynnig profiad rhagorol i'n cymuned amrywiol o fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr campws.
Yn ogystal â rheoli, cynnal a datblygu ystâd y Brifysgol, a darparu amgylchedd diogel, cynaliadwy a diogel ar gyfer dysgu ac ymchwil, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau campws gan gynnwys preswylfeydd myfyrwyr, chwaraeon, arlwyo, cyfleusterau diwylliannol a digwyddiadau, y gall pawb, gan gynnwys y gymuned leol, ac ymwelwyr eu mwynhau.