‘Fy Hoff Leoedd ac Ardaloedd’
Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas eleni, a ddethlir ar 14 Mai bob blwyddyn, gwahoddodd DylanED ysgolion cynradd o ledled de Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn.
Seiliwyd y gystadleuaeth, o’r teitl ‘Fy Hoff Leoedd ac Ardaloedd’ ar Reminiscences of Childhood – atgofion clasurol Dylan Thomas o olygfeydd a seiniau o’i blentyndod.
Gan ddilyn yn olion traed ysgrifennwr a storïwr mwyaf blaenllaw Abertawe, gofynnodd y gystadleuaeth i ddisgyblion rhwng 8 ac 11 oed gyflwyno stori fer (100 o eiriau), cerdd neu lun o’u hoff leoedd ac ardaloedd.
Cynhaliwyd cyfres o weithdai hwyl ac ymgysylltiol mewn rhai o’r ysgolion a gymerodd ran. Bu’r gynulleidfa wrth eu bodd yn gwylio’r actor proffesiynol, Mark Montinaro, yn dod â straeon o atgofion ac anturiaethau Dylan o’i blentyndod yn fyw. Dilynwyd hyn gan y bardd a’r awdur Mab Jones, a sbardunodd ddychymyg y disgyblion ymhellach trwy gyfres wych o gemau geiriau dyfeisgar ac ymarferion rhyngweithiol a arweiniodd at ddisgyblion yn amlinellu ac yn llunio drafftiau o’u ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth.
Cyflwynodd bron 800 o ddisgyblion amrywiaeth eang o geisiadau gwych gan ystod o ysgolion ledled de Cymru. Rhoddwyd y dasg anodd iawn o ddewis enillwyr eleni i’r beirniaid!