Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2022
Cafodd dros 91% o'r hyn a gyflwynwyd gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg i'r asesiad, dros 8 uned, ei ddosbarthu naill ai'n ‘rhagorol yn rhyngwladol’ neu'n ‘arwain y byd’. Dyma'r ddiweddaraf o blith cyfres o gymeradwyaethau ar gyfer y Gyfadran, a gafodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn gynharach eleni. Mae'r Gyfadran yn eithriadol o falch o'r partneriaethau a'r cydweithrediadau sydd wedi arwain at ei llwyddiant, a bydd yn dathlu gyda'r gymuned ymchwil gyfan: yn dechnegwyr, ymchwilwyr ôl-raddedig, gweinyddwyr, ymchwilwyr, a llyfrgellwyr, sydd wedi gwneud y cyflawniad hwn yn bosibl.
Mae'r Gyfadran bob amser wedi rhoi gwerth ar effeithiau ei hymchwil ar y byd go iawn, ac felly wrth ei bodd bod 87% o'i hastudiaethau achos effaith wedi cael eu hasesu'n rhai sy'n ‘arwain y byd’ ac sy'n ‘rhagorol yn rhyngwladol’ gan banelwyr REF arbenigol, a bod ein cyd-weithwyr Mathemateg wedi cyflawni effaith o 100% o ran arwain y byd. Mae'r astudiaethau achos effaith, sy'n disgrifio partneriaethau â busnesau, diwydiant, cyrff cyhoeddus a phartneriaid academaidd eraill ledled y byd, yn amrywio o Tata Steel i Gymdeithas y Cyfreithwyr, ac wedi cael effaith ar fywydau cannoedd o bobl ar hyd a lled y byd. Yn siarad ar ran y Gyfadran, dywedodd yr Athro Perumal Nithiarasu, ‘Mae hwn yn gymeradwyaeth wych o weledigaeth y Gyfadran i ymgymryd ag ymchwil sy’n cael effaith sylweddol ar fywydau pobl go iawn, a hynny'n unol â’n huchelgais i wneud gwahaniaeth, gan sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a buddiol yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. Aseswyd bod amgylchedd ymchwil y Gyfadran dros 93% o ran arwain y byd neu ragoriaeth ryngwladol.