Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

Rydym wrth ein bodd bod 90% o’n hallbynnau ymchwil wedi cael eu cydnabod yn rhai sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol. Barnwyd bod 100% o’r amgylchedd yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol, sy'n amlygu cymuned ymchwil ffyniannus sy’n rhychwantu daearyddiaeth ddynol a ffisegol.

Ein Gweledigaeth

Mae Daearyddiaeth Abertawe yn dilyn ymchwil flaengar a arweinir gan her ac sy'n rhychwantu daearyddiaeth ddynol allweddol, dynameg amgylcheddol, rhewlifeg, modelu amgylcheddol byd-eang, ac arsylwi ar y Ddaear o'r gofod.

Ein Hamgylchedd

Mae ein cymuned fawr o academyddion, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, a myfyrwyr PhD yn mwynhau amgylchedd ymchwil egnïol, cynhwysol sydd ag adnoddau da ac sy'n cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer arsylwi ar y Ddaear, monitro amgylcheddol, gwaith yn y labordy, modelu, a gwaith maes rhyngwladol. Rydym hefyd yn mwynhau rhwydwaith byd-eang o gydweithredwyr strategol, sy'n rhychwantu sefydliadau academaidd, asiantaethau llywodraeth, a sefydliadau cymdeithas sifil.  

Ein Hallbynnau

Roeddem wedi cyhoeddi dros 500 o erthyglau gwyddonol yn y cyfnod, ac roedd bron tri chwarter o'r rhain ar y cyd ag academyddion o bob cwr o'r byd. Mae rhaid wedi'u cyd-awduro ag artistiaid, llunwyr polisi, a phartneriaid masnachol. Roeddem hefyd wedi cynhyrchu setiau data amgylcheddol, modelau cyfrifiadurol, a chod ffynhonnell pwysig, ac mae'r rhan helaeth ar gael yn rhydd trwy gyhoeddiadau mynediad agored.

Ein Heffaith

Ein hymchwilwyr rhewlifeg oedd y cyntaf i ragweld ymraniad enfawr mynydd iâ A-68 o len iâ Larsen C yn yr Antarctig, ac i gyhoeddi'r digwyddiad ymrannu gwirioneddol yn 2017 a hoeliodd sylw cynulleidfa fyd-eang.  Mae ein hymchwilwyr tanau gwyllt wedi creu modelau soffistigedig i ragweld a lliniaru effaith halogiad-dŵr-yfed yn dilyn tanau gwyllt catastroffig yn Awstralia, Sbaen, a'r DU. Mae ein modelwyr amgylcheddol wedi datblygu gwell modelau cyfrifiadurol atmosfferig sydd wedi helpu asiantaethau meteorolegol o amgylch y byd i wella eu rhagolygon tywydd yn sylweddol. 

Ein Cymuned

Dewch i gwrdd â'r Gymuned Daearyddiaeth a Gwyddorau Amgylcheddol
 
 

Dewch i gwrdd â staff yr Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddorau Amgylcheddol

darlithydd gwrywaidd