Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

Rydym wrth ein bodd bod ein heffaith wedi cyflawni gradd o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol, sy'n amlygu dyfnder ac ehangder ein hymchwil. Mae ein hamgylchedd, a ategir gan ecosystem Campws y Bae a gwaith gyda chyd-weithwyr ledled disgyblaethau, wedi ennill cydnabyddiaeth o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cynnig amgylchedd ymchwil arloesol, egnïol, gan wahodd ymchwilwyr, myfyrwyr, diwydiant a'r trydydd sector i rannu ein huchelgais, ac adeiladu ar ein henw da yn fyd-eang.

Ein Hamgylchedd

Rydym yn hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol a ffyniannus sy'n ysbrydoli cymuned ryngwladol o ysgolheigion creadigol, chwilfrydig a chydweithredol sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Trwy gydol cylch y REF hwn, rydym wedi gwella cydweithrediadau rhyngwladol, ac, at hynny, mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £3 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon ac ymchwil pwrpasol. Mae hyn yn cynnwys dyblu nifer y staff academaidd (Categori A) a chynyddu'r gofod labordy. Cafwyd cynnydd decplyg yn nifer y staff ymchwil, cynnydd pedwarplyg yn nifer y graddau PhD a gwblhawyd, a chynnydd o 46% yn ein cyllid ymchwil yn ystod cyfnod REF 2021.

Ein Hallbynnau

Rydym wedi cynyddu ansawdd a maint ein hymchwil yn sylweddol, gan gyhoeddi 514 o allbynnau yn ystod cyfnod y cyfrifiad. Roedd 31% o'r cyhoeddiadau yn y 10% uchaf ar gyfer cyfnodolion, gydag 17% yn y 10% uchaf a ddyfynnwyd yn fyd-eang. Y rhai a ddyfynnwyd amlaf oedd y rhai a oedd yn cynnwys cydweithredwyr rhyngwladol neu ddiwydiannol. O blith y 48 o allbynnau a gyflwynwyd, roedd traean yn berthnasol i dechnolegau a methodolegau arloesol, ac roedd 80% yn cynnwys elfen o effeithiau ymchwil ar strategaethau, arferion, cynhyrchion a pholisïau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Roedd bron hanner yr allbynnau'n ymwneud â Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Gymhwysol yn cynnwys cyd-awdur(on) rhyngwladol.

Ein Heffaith

Mae ein strategaeth i sbarduno ymchwil yn ymwneud â sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith real yn y byd academaidd a'r tu hwnt iddo. Dwy enghraifft dda o hyn yw'r effaith y mae ymchwil yn ei chael o ran gwella perfformiad athletwyr proffesiynol ac elît trwy weithredu strategaethau paratoi. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid byd-eang i ddeall anghenion beicwyr proffesiynol â Diabetes Math I. Bydd hyn, yn ei dro, yn llywio'r cyngor y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei roi i unrhyw un y mae'r cyflwr yn effeithio arno ac sydd am ddod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Ein Cymuned

Dewch i gwrdd â staff Gwyddor Chwaraeon a'r gymuned ôl-raddedig

Ein Staff Gwyddor Chwaraeon

athro a myfyrwyr