Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

  • Ystyrir bod ein hamgylchedd ymchwil yn 100% ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n rhagorol yn rhyngwladol neu sy'n arwain y byd o ran ansawdd.
  • Cafodd 100% o'n hamgylchedd ymchwil sgôr o yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol, sy'n gynnydd o 12.5%.
  • Ystyrir bod ansawdd ein hallbynnau ymchwil yn arwain y byd, yn rhagorol yn rhyngwladol, ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.
  • Cafodd 23.4% o'n hallbynnau ymchwil sgôr o yn arwain y byd
    , sy'n gynnydd o 14.5%.
  • Ystyrir bod 80% o effaith ein hymchwil yn eithriadol a'i bod yn cael effaith eang iawn o ran ei chyrhaeddiad a'i harwyddocâd.
  • Mae'r incwm ymchwil wedi cynyddu o gyfanswm o £1.6 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2014 i dros £7 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2021 – cynnydd o 375%.
  • Rydym wedi cynyddu ein carfan o ymchwilwyr ôl-raddedig o 25 yn 2013-2014 i 68 yn 2019-2020, sy'n gynnydd o 172%.

“Trwy ddarparu rhagoriaeth yn ein hamgylchedd ymchwil, mae busnes a rheolaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae hyn yn amlwg trwy'r cynnydd sylweddol a wnaed gennym o ran yr allbynnau ymchwil yr ystyrir eu bod yn arwain y byd, a hefyd trwy'r twf yn ein hincwm ymchwil a nifer y graddau PhD a gwblheir.”

- Yr Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Rheolaeth ac Arweinydd Uned Asesu 17 

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth i gymdeithas a'r economi yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, a hynny trwy ragoriaeth o ran ymchwil ac addysgu a arweinir gan ymchwil. 

Ein Hamgylchedd

Mae'r gymuned ymchwil Busnes a Rheolaeth amlddisgyblaethol, ffyniannus yn cynnwys dros 120 o aelodau staff academaidd, 90 o staff y gwasanaethau proffesiynol, a 68 o fyfyrwyr PhD, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio ac yn astudio ar Gampws y Bae, a agorodd y 2015 ac sy'n werth £450 miliwn. Rydym hefyd yn gartref i nifer o ganolfannau ymchwil, prosiectau mawr wedi'u hymgorffori, a'r felin drafod polisïau, Comisiwn Bevan. 

Ein Hallbynnau

Yn ystod y cyfnod asesu, roeddem wedi cyhoeddi dros 1,000 o allbynnau ymchwil, yn cynnwys 895 o erthyglau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid. Rydym yn cydweithredu â'r gymuned academaidd fyd-eang, a hynny o fewn ein ffiniau disgyblaethol a'r tu hwnt iddynt. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid anacademaidd, er enghraifft llunwyr polisi, y sector cyhoeddus, banciau rhyngwladol, ac amrywiaeth eang o fusnesau. 

Ein Cymuned

Cwrdd â'r staff busnes a rheoli a'r gymuned ôl-raddedig