Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

  • Ystyrir bod 78% o'n hymchwil yn gyffredinol yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
  • Roedd cyfran ein hallbynnau ymchwil yr ystyrid eu bod yn arwain y byd wedi treblu o gymharu â REF2014.
  • Ystyrir bod 87.5% o'n hamgylchedd ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol.
  • Ystyrir bod 83.3% o effaith ein hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol.
  • Rydym wedi meithrin cymuned ymchwil ôl-raddedig egnïol sydd wedi ehangu'n ddramatig, a hynny 155% oddi ar REF2014.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw datblygu ymhellach ein cymuned egnïol a chynhwysol a arweinir gan ymchwil, gan gyfrannu arbenigedd cyfreithiol ar lefelau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sy'n cysylltu damcaniaeth â chymwysiadau ymarferol i sbarduno newid.

Ein Hamgylchedd

Rydym yn mwynhau amgylchedd ymchwil cefnogol, dynamig ac amrywiol sy'n cael ei lywio gan bum egwyddor graidd: cynwysoldeb, tryloywder, colegoldeb, cydraddoldeb ac effeithiolrwydd, ac sy'n dwyn ynghyd ysgolheigion o ystod eang o bynciau arbenigol a chefndiroedd academaidd. Mae gennym nifer o ganolfannau ymchwil gwahanol yn gweithio mewn tri phrif faes: Cyfraith Forwrol a Masnachol, Llywodraethu a Hawliau Dynol, a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Nodweddir ein hamgylchedd ymchwil gan ymrwymiad i ragoriaeth ymchwil, i gynhyrchu effeithiau ymchwil amrywiol, ac i hwyluso ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol. Mae ein hymchwilwyr yn mynd i'r afael â'r heriau cyfredol a heriau'r dyfodol sy'n wynebu ein heconomi, ein cymdeithas a'n hamgylchedd. Rydym yn cydweithredu â'n gilydd ac ag amrywiaeth o unigolion mewn sefydliadau academaidd a sefydliadau llywodraethol, rhynglywodraethol ac anllywodraethol.

Mae buddsoddiad cyfalaf wedi ein galluogi i wella ein hamgylchedd ffisegol yn sylweddol, gan ein galluogi i ehangu i lenwi ail adeilad modern ac i greu cyfleusterau pwrpasol, er enghraifft ein Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru newydd, sef menter gwerth £5.6 miliwn a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (2019-2023).

Ein Hallbynnau

Bu ein hymchwilwyr yn cyhoeddi'n helaeth yn ystod cyfnod asesu'r REF, gan gynnwys 224 o erthyglau mewn cyfnodolion, 184 o benodau llyfrau, 36 o adroddiadau ymchwil a 23 o lyfrau, a'r rheiny wedi'u hanelu at amrywiaeth o ddefnyddwyr a darllenwyr. Mae ein gwaith yn ein galluogi i gymryd rhan mewn rhwydweithiau byd-eang o ran y gyfraith, troseddeg a chyd-destunau rhyngddisgyblaethol, ac i feithrin cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol, fel ei gilydd.

Ein Heffaith

Mae ein gwaith yn cynnwys ac yn rhoi budd i amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys llunwyr cyfreithiau a pholisïau, y proffesiwn cyfreithiol, a chymdeithas sifil. Rydym y cyfrannu ymchwil sy'n ymgysylltu â heriau cymdeithasol dybryd, o safbwyntiau byd-eang i faterion sy'n benodol i Gymru a'r cysylltiadau niferus sydd rhyngddynt.

Mae effaith ein gwaith yn cynnwys trawsnewid i bolisïau ac arferion sy'n effeithio ar y gwaith o reoli gweithwyr rhyw a'u llesiant yng Nghymru a llunio arfer proffesiynol yn y gwasanaethau sy'n cefnogi myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn gwaith rhyw yn y DU. Ym maes ymchwil seiberderfysgaeth, mae ein gwaith yn asesu'r bygythiad gan weithgarwch ar-lein terfysgwyr, ac yn datblygu cynigion ar gyfer polisi ac ymarfer. Rydym hefyd wedi cyfrannu at effeithiau ymchwil ar reoli clymog Japan ac ar newidiadau i'r gyfraith sy'n mynd i'r afael â thwyll mewn addysg ac wedi cydweithredu yn hynny o beth.

Ein Cymuned

Dewch i gwrdd â Staff Ysgol y Gyfraith a Chymuned Ôl-raddedig

Ein Staff Ysgol y Gyfraith

darlithydd benywaidd