Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

Arweiniodd y broses o weithio gyda chyd-weithwyr ar Gampws y Bae, sy'n gampws newydd a chanddo gyfleusterau ymchwil rhagorol, at amgylchedd o 100% sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae cydran ein cyhoeddiadau sy'n arwain y byd wedi cynyddu i dros 25%.

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu ymchwil sy’n cael effaith wirioneddol trwy ein canolfannau ymchwil o safon fyd-eang a’n rhaglen fuddsoddi barhaus. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd rhagorol ar gyfer cynnal ymchwil.

Ein hamgylchedd

Rydym yn gymuned amlddisgyblaethol lewyrchus sydd wedi mynd ati i integreiddio pynciau mewn modd cadarn ledled ffiniau traddodiadol, ac sy'n darparu ymchwil ac addysg o'r radd flaenaf. Dros gyfnod y cyfrifiad hwn, mae gwaith ehangu sylweddol wedi mynd rhagddo, a oedd yn cynnwys adleoli i gampws y bae newydd gwerth £420 miliwn yn 2015, lle rydym yn meddiannu dros 45,000m2 ac yn cynnal ystod eang o gyfarpar sy'n werth mwy na £50 miliwn. Mae ein hincwm ymchwil blynyddol cyfartalog yn £26.4 miliwn, sy’n gynnydd o 120% oddi ar REF 2014. Mae nifer ein staff Categori A wedi cynyddu fwy na 40, a bu cynnydd o 59% yn nifer y rhai a gwblhaodd PhD.

Ein hallbynnau

Yn ystod cyfnod y cyfrifiad, deilliodd 77% o'n hallbynnau o gydweithrediadau â sefydliadau eraill, 58% trwy bartneriaethau rhyngwladol (82 o wledydd), ac mae 10% wedi cael eu cydawduro â diwydiant. Ar hyn o bryd, rydym yn rheoli cyfeiriadur o dros 250 o berthnasoedd â chwmnïau, a'r rheiny'n amrywio o BBaChau rhanbarthol i fentrau rhyngwladol mawr.

Ein heffaith

Mae ein hymchwil yn datblygu haenau gweithredol ar gyfer cynhyrchu ynni; ac yn datblygu adeiladau ynni gweithredol sy'n cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain. Rydym yn arloesi datrysiadau deunyddiau uwch ar gyfer dyfodol Di-Garbon ac yn gwella'r galluogrwydd modelu ar gyfer y diwydiant awyrofod. Rydym wedi gwella effeithlonrwydd gweithgynhyrchu micronodwyddau a phrosesau dylunio pilennau ar gyfer y defnydd ohonynt mewn gofal iechyd a diwydiant.

Ein Cymuned

Cwrdd â'r staff Peirianneg a'r gymuned ôl-raddedig