Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

  • Ystyrir bod 69% o'r ymchwil ym maes Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau Cyfryngau yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol.
  • Cydnabyddir bod 60% o allbynnau ein hymchwil yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol.
  • Ystyrir bod 100% o effaith yr ymchwil a wnaed ym maes Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau Cyfryngau yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol.
  • Roedd ein hincwm ymchwil o £953,218 yn cynrychioli cynnydd o dros 78% o gymharu â REF2014.
  • Cwblhawyd 34 o raddau PhD, sy'n cynrychioli cynnydd o 45% oddi ar REF2014.
  • Roeddem wedi llwyddo i sicrhau 11 o ysgoloriaethau PhD wedi'u hariannu

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw darparu ymchwil o'r radd flaenaf sy'n dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol, yn llywio'r broses llywodraethu fyd-eang ac yn gwella ymgysylltiad gwleidyddol a chynhwysiant dinesig. 

Ein Hamgylchedd

Mae ein cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol fywiog yn ymgorffori ystod eang o arbenigeddau ac yn defnyddio gwaith cyd-weithwyr yn yr adrannau Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, y Cyfryngau a Chyfathrebu ac Athroniaeth. Mae'r ehangder hwn o arbenigedd wedi hwyluso ffocws ar ymholi rhyngddisgyblaethol sy'n ymrwymedig i gynhyrchu gwaith ymchwil o'r radd flaenaf, ac i ddarparu atebion i heriau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. 

Ein Hallbynnau

Er 2014 rydym wedi cyhoeddi 13 o fonograffau, dros 120 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion, ac wedi cyfrannu'n rheolaidd i ystod eang o lwyfannau'r cyfryngau gan roi cyngor ar faterion megis gwleidyddiaeth ac etholiadau yng Nghymru, y DU ac Ewrop a materion yn ymwneud â pholisïau, yn ogystal â darparu cyflwyniadau i bwyllgorau seneddol i gyfrannu at ymchwiliadau deddfwriaethol. 

Ein Heffaith

Mae ein hymchwilwyr yn adeiladu llwyfannau partneriaeth cadarn i gael effaith ar bolisïau rhyngwladol a chenedlaethol, megis newid byd-eang yn nulliau gweithredu llywodraethau ym maes polisïau rheoli cyffuriau a throseddu, arwain newidiadau i'r broses o ddatblygu polisïau ar gyfer cymunedau gwledig Gorllewin Affrica gan arwain at fanteision economaidd, iechyd ac addysgol sylweddol. Rydym hefyd wedi arloesi ym maes datblygiad o ran deall heriau cynhwysiant digidol ar gyfer grwpiau â nam ar eu golwg a'u clyw, gan gyflawni newidiadau i bolisïau darlledwyr ac elusennau er budd defnyddwyr cyfryngau digidol Cymru sydd â nam synhwyraidd. 

Ein Cymuned

Dewch i gwrdd â staff Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol a'r gymuned ôl-raddedig

Ein Staff Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

darlithydd gwrywaidd

Ein Staff Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

darlithydd benywaidd

Ein Cymuned Ôl-raddedig Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Myfyrwyr ôl-raddedig