Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

  • Ystyrir bod 100% o'r amgylchedd ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol ac o ansawdd sy'n arwain y byd.
  • Yn gyffredinol, ystyrir bod 81% o'r ymchwil ym maes Addysg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
  • Ystyrir bod 81.8% o'r cyhoeddiadau ymchwil ym maes Addysg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol

 

Nododd yr Athro Jonathan Bradbury a'r Athro Gareth Jenkins fod:

“ein Huned Asesu 20 wedi perfformio'n eithriadol o dda yn asesiad ymchwil REF2021, gan sicrhau safle yn y 10 uchaf am yr amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol, a phennwyd bod 81% o ansawdd yr ymchwil yn gyffredinol yn ‘arwain y byd’ neu'n ‘rhagorol yn rhyngwladol’. Mae Cyfadrannau'r Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol a Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd yn falch o weld bod y cyd-gyflwyniad hwn, sy'n rhychwantu addysg, cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, wedi cael ei gydnabod gan y panel o arbenigwyr.” 

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cyfrannu at ac ysgogi twf economaidd, cynhyrchiant, addysg a ffyniant yn y rhanbarth, yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Ein Hamgylchedd

Mae gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol yn gymuned ymchwil ddynamig a chefnogol sy'n cynnwys 24 o staff cymwys Categori A, ac mae'n cwmpasu meysydd polisi amrywiol, megis iechyd, addysg, tai, tlodi a'r teulu. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar dair thema ganolog: Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd, Heneiddio Arloesol, a Pholisi ac Arfer Addysgol.

Ein hallbynnau

Cynyddodd yr allbynnau ysgolheigaidd o’r Uned Asesu 3% yn ystod cyfnod y cyfrifiad hwn, ac mae’r ffactor effaith dyfynnu mewn perthynas â gwaith gan aelodau’r Uned Asesu ddwywaith y cyfartaledd byd-eang ar gyfer y maes.

Ein heffaith

Mae llwyddiant effaith ein hymchwil ar bolisi ac ymarfer ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, fel ei gilydd, wedi arwain at gydnabyddiaeth barhaus a sylweddol. Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio'n eang ag academyddion o sefydliadau eraill, ynghyd â sefydliadau llywodraethol a diwydiannol a sefydliadau'r trydydd sector. Mae ystod eang o bartneriaethau rhyngwladol wedi arwain at fentrau rhyngwladol, ymchwil effeithiol, a chipio grantiau. Mae ein hastudiaethau achos effaith yn amlygu cysylltiadau cadarn â defnyddwyr ymchwil, megis cymdeithasau tai, Awdurdodau Lleol (y DU a Ffrainc), y rhai sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, ac arweinwyr a staff ysgolion.

Tîm Staff y Ganolfan Heneiddio Arloesol – Prifysgol Abertawe
Staff yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Prifysgol Abertawe
Y Staff Addysg ac Astudiaethau Plentyndod – Prifysgol Abertawe

Ein Cymuned

Cwrdd â staff gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol a'r gymuned ôl-raddedig

Dewch i gwrdd â staff ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

darlithydd parafeddygon a myfyrwyr