Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

Ledled ffiseg arbrofol, gymhwysol a damcaniaethol, mae 97% o’n cyhoeddiadau yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol.  Mae effeithiau ymchwil sy’n rhychwantu diagnosteg canser, uwchgyfrifiadura ac ymgysylltu â’r cyhoedd wedi cynyddu’n sylweddol i fod yn 50% sy'n arwain y byd. Mae 100% o'n Hamgylchedd wedi ennill graddau sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

Ein Gweledigaeth

Nod ffiseg yw creu presenoldeb byd-eang trwy ymchwil ym maes ffiseg arbrofol, gymhwysol a damcaniaethol, ac annog cydweithredu byd-eang i gynhyrchu ymchwil sy'n rhagorol yn rhyngwladol. 

Ein Hamgylchedd

Mae gennym 26 o aelodau staff Categori A, a chafwyd cynnydd o dros 30 o aelodau staff academaidd ac ymchwil yn ystod cyfnod y REF. Bu yna gynnydd o 116% yn nifer y graddau PhD a ddyfarnwyd yn ystod cyfnod y cyfrifiad. Dyfarnwyd grantiau gwerth £22.5 i'r adran Ffiseg yn ystod cyfnod y REF, sef cynnydd o 70% o gymharu â'r REF blaenorol, a chafwyd cyfanswm cynnydd o 81% yn yr incwm ymchwil. Roedd yr Adran yn rhan o'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) gwerth £30 miliwn a ddyfarnwyd i'r adrannau Ffiseg, Cemeg a Pheirianneg, a fydd yn rhan annatod o'r gwaith o ehangu'r Adran.                   

Chwyddodd allbwn ymchwil yr Adran i dros 800 o gyhoeddiadau (18 Nature suite) gyda sgôr effaith dyfyniadau maes-bwysedig o 1.8, sydd 80% uwchlaw'r cyfartaledd byd-eang. Roedd 194 (24.2%) o'r rhain ymhlith y 10% uchaf ar gyfer cyhoeddiadau a ddyfynnir, a 437 (64.6%) yn y 10% uchaf ar gyfer cyfnodolion yn ôl CiteScore.

Ein Heffaith

Mae Oriel Gwyddoniaeth yn cymryd yr ymchwil a wneir gan ymchwilwyr Abertawe, yn ei gosod wrth wraidd y gymuned trwy arddangosfeydd, ymweliadau ag ysgolion a lleoliad newydd yng nghanol y ddinas, ac wedi cyrraedd dros 100,000 o bobl oddi ar 2016. Mae ein hymchwil yn datblygu prawf gwaed anfewnwthiol effeithiol i ganfod canser y perfedd yn gynnar, sef y trydydd canser mwyaf cyffredin ledled y byd. Rydym wedi datblygu BSMBench, sef cod meincnodi ffynhonnell agored ar gyfer uwch-gyfrifiaduron, sy'n helpu cwmnïau i werthuso eu cynhyrchion caledwedd newydd.

Ein Cymuned

Cwrdd â'r staff ffiseg a'r gymuned ôl-raddedig