Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

  • Ystyrir bod 78% o ansawdd ein hymchwil yn gyffredinol yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
  • Mae gennym safle ymhlith y 30 uchaf yn y DU ar gyfer ansawdd yr amgylchedd ( o ran natur hanfodol a chynaliadwyedd) – gyda 100% o'n ein hamgylchedd ymchwil sgôr o 4*/3* – sy'n adlewyrchu proffil sy'n ffafriol i ymchwil o ansawdd sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae ein cynhwysiant hefyd yn gwella'n sylweddol, fel sy'n cael ei adlewyrchu gan ein cynnydd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau (roedd 54% o'r staff a gyflwynodd yn fenywaidd).
  • Mae ein hincwm ymchwil wedi cynyddu o gyfanswm o £1.7 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2014 i dros £2.0 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2021
  • Rydym wedi cynyddu ein carfan o ymchwilwyr ôl-raddedig o 32 yn 2013-2014 i 44 yn 2019-2020.
  • Rydym yn cynnal ein diwylliant ymchwil balch o ran ein hanes cadarn o drosi gwyddoniaeth yn ganlyniadau yn y byd go iawn, gyda 100% o'n heffaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol.
  • Ystyrir bod dau draean o allbynnau ein hymchwil yn  arwain y byd neu'n rhagorol yn  rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd, a thrylwyredd.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw darparu ymchwil seicolegol drosiadol o'r radd flaenaf i ddeall problemau'n well a nodi atebion o bwysigrwydd cymdeithasol, ac i lywio dadl seiliedig ar bolisi a newid deddfwriaethol.

Ein Hamgylchedd

Mae ein dealltwriaeth o brosesau seicolegol a'n cymuned ymchwil ffyniannus yn seiliedig ar ddwy thema ymchwil eang: Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Seicoleg Glinigol, Iechyd a Fforensig. Mae hyn wedi ein harwain i fod yn ganolfan o ragoriaeth mewn ymchwil ryngddisgyblaethol a gefnogir gan ein hagosrwydd ffisegol at bartneriaid allweddol ym meysydd Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd.

Ein Hallbynnau

Mae ein hymchwil yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyfryngau ar-lein, teledu a phrint. Er enghraifft, yn ystod y cyfnod adolygu mae ein hymchwil wedi ymddangos ar y rhaglen Charlotte Church – Inside My Brain (BBC, 2018), ar raglen ddogfen Click for Murder (2017) ar CBC/Netflix, ar raglen Through the Wormhole with Morgan Freeman (2014) ar The Discovery Channel, ac mewn nifer o eitemau newyddion radio a theledu, mewn papurau newydd, ac ar wefannau newyddion. Mae ein staff yn ymddangos yn rheolaidd ar raglenni newyddion ac mewn rhaglenni dogfen lleol y BBC ac ITV, ac yn ymgysylltu â defnyddwyr ymchwil a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, a hynny trwy lwyfannau ar-lein. 

Ein Heffaith

Nod ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg yw cael effaith ar iechyd a llesiant trwy drin cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol cyffredin mewn modd arloesol, a hyrwyddo ymyriadau newydd a gynlluniwyd i hybu llesiant y boblogaeth. Rydym yn sicrhau dealltwriaeth empirig o'r effaith ar gymdeithas a pholisi mewn meysydd sy'n amrywio o wyddor llesiant, gordewdra a maeth, i gamblo a chaethiwed ymddygiadol, seicoleg fforensig a chlinigol, niwroddelweddu a gwybyddiaeth.

Gwella Asesiad Canlyniadau mewn achosion o Niwed Caffaeledig i'r Ymennydd – Prifysgol AbertaweGwella Cymorth Seicolegol ar gyfer Straen sy'n Gysylltiedig ag Iechyd – Prifysgol AbertaweCymorth Seicolegol i Hybu Ffisiotherapi ar gyfer Camweithrediad Llawr y Pelfis – Prifysgol Abertawe

Ein Cymuned

Cwrdd â Staff yr Ysgol Seicoleg a'r Gymuned Ôl-raddedig

Dewch i gwrdd â staff ein Hysgol Seicoleg

male lecturer