Ddiwedd y 1990au roedd gweithwyr iechyd proffesiynol ac academyddion yn pryderu y gellid gwneud mwy o amgylch monitro gofal claf yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu gwirio'n drylwyr am unrhyw sgîl-effeithiau o'u meddyginiaethau.
Er bod defnyddwyr y system gofal iechyd yn gweld rhagnodydd meddygol, mae sgyrsiau fel arfer yn anffurfiol ac yn gallu bod heb gwestiynau manwl ac uniongyrchol. Yn ogystal â hyn, dim ond tua 10-15 munud y gall rhagnodwyr meddygol dreulio ar bob unigolyn oherwydd eu dyletswyddau eraill. Mae hyn yn creu amgylchedd lle mae'n bosibl gor-edrych ar unrhyw wybodaeth am sgîl-effeithiau posibl (Seale et al 2007, Quirk et al 2012).
Canolbwyntiodd ymchwil a datblygu a gynhaliwyd yn Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ddechrau ar fentrau addysgu arloesol fel ffordd i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn, a'i ganlyniad oedd proffil Ymateb Cyffuriau Niweidiol Gorllewin Cymru (WWADR). Fe wnaeth y proffil hwn, ar ôl ei gwblhau, greu cofnod cynhwysfawr o broblemau a allai fod yn gysylltiedig â chyffuriau, y gallai rhagnodwyr eu hystyried wrth adolygu defnyddwyr gwasanaeth a'u triniaethau, gan lenwi bwlch gofal (Jordan a Hughes 1996).
Yn ddiweddarach, gofynnodd ymarferwyr a myfyrwyr am ganllawiau ar gyfer y Proffil, gan arwain at ymchwil bellach i ddod â defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill i mewn i ddatblygu a diweddaru'r proffil (Jordan et al 2000), a chyhoeddwyd y rhain gyda Phroffil diwygiedig yn 2004 (Jordan et al 2004). Roedd y cynnwys diwygiedig newydd yn seiliedig ar ganllawiau ymarfer ar gyfer nyrsys, wedi'u hadolygu gan gymheiriaid a'u cyhoeddi gan Nursing Standard, ar y cyd â'r Coleg Nyrsio Brenhinol (Jordan & Pointon 2005, Hewitt a Jordan 2005, Jordan ac Afzal 2005, Jordan 2008).
Dilynwyd gwaith ymchwilio pellach yn 2007 i archwilio argaeledd mesurau a thystiolaeth eraill a oedd yn anelu at nodi a rheoli adweithiau niweidiol i gyffuriau (papur sefyllfa, Jordan 2007). Roedd hyn yn galluogi'r proffil i dynnu ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.
Cyhoeddwyd diweddariadau pellach o'r Proffil yn ddiweddarach yn 2014 a 2015 (Jordan et al 2014, 2015), a'u hailenwi'n ADRe i adlewyrchu ei nodau a'i ethos.
Gallwch ddarganfod mwy am waith yr Athro Jordan trwy ei thudalen proffil