Rydym yn dîm o academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol a myfyrwyr sy'n cynnal ymchwil i fwydo babanod sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a'r rhai sy'n eu cefnogi.
Mae ein hymchwil yn gofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi:
- Pa mor aml mae babanod wir yn bwydo?
- A ddylwn roi trefn arferol i’m babi?
- Beth sy'n bwysig iawn ynglŷn â sut y caiff bwydydd solet eu cyflwyno?
- Sut fedrwn ni gefnogi merched yn well i fwydo ar y fron a phan nad oes modd iddynt wneud hynny?
Nid yw ymchwil yn gwneud gwahaniaeth os yw y tu ôl i ddrysau caeedig. Rydym yn cymryd canfyddiadau ein hymchwil ac yn eu troi'n offer sy'n helpu rhieni a gweithwyr proffesiynol.
Mae modd i chi ddarllen mwy am ein hymchwil a'r hyn y mae'n ei olygu i chi drwy'r dolenni isod lle cewch fynediad i'n crynodebau, blogiau, animeiddiadau, clipiau teledu a mwy. Mae croeso i chi rannu ein hoffer a'u defnyddio mewn addysg a hyfforddiant.