Mae rhai pobl yn teimlo bod y modd yr rydych chi’n cyflwyno bwydydd solet i’ch babi e.e. os ydych yn gadael iddynt hunan-fwydo neu fwydo â llwy effeithio ar ba mor gyflym y maent yn magu pwysau. Mae ymchwil yn ei gamau cynnar o hyd ac nid oes llawer o ymchwil wedi'i wneud ar y pwnc hwn. Canfu ein hymchwil fod babanod a gafodd eu diddyfnu dan arweiniad babanod yn llai tebygol o fod dros bwysau fel plant bach. Canfuom yn ein sampl fod 8% o'r babanod a gafodd eu diddyfnu dan arweiniad babanod dros eu pwysau o gymharu â 19% o'r rhai a gafodd eu bwydo â llwy. Fodd bynnag, er bod y canfyddiadau’n ddiddorol ac yn sicr yn werth eu harchwilio’n fwy, y prif gyfyngiad oedd bod mamau’n hunan-gofnodi pwysau eu babi ac nid yw ymchwil arall wedi canfod gwahaniaeth mewn babanod deuddeg mis oed.
Rydyn ni’n meddwl mai’r rhan bwysicaf o gyflwyno solidau i’ch babi yw bod yn ymatebol e.e. gadewch iddyn nhw reoli faint maen nhw'n ei fwyta. Os yw babanod sy’n hunan-fwydo yn llai tebygol o fod dros eu pwysau, yna mae’n bosibl bod hyn oherwydd bod ganddynt fwy o reolaeth dros roi’r gorau i fwyta pan fyddant yn llawn ac o bosibl oherwydd eu bod yn cymryd mwy o amser i fwyta pryd o fwyd, gan roi amser iddynt deimlo’n llawn. Os ydych chi'n defnyddio llwy, gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n annog eich babi i barhau i fwyta pan fydd yn llawn, na phoeni amdano'n bwyta'r pryd cyfan rydych chi wedi'i wneud. Gadewch iddyn nhw chwarae gyda rhywfaint o fwyd hefyd a chymryd eich amser dros y pryd.