Mae hybu iechyd ac atal afiechydon yn elfennau hanfodol o arfer iechyd y cyhoedd, sy'n cynnal a gwella iechyd y boblogaeth. Mae sgiliau nyrsio yn allweddol i ddarparu ymyriadau iechyd y cyhoedd ar draws yr holl leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o ofal holistig sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae nyrsys yn dyfeisio, yn gweithredu ac yn arfarnu ymyriadau iechyd y cyhoedd. Mae'r thema ymchwil hon yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau iechyd y cyhoedd dan arweiniad nyrsys.

iamge

Gwelededd cynyddol anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsi

Y Prif Ymchwilwyr yw'r Athro Louise Condon a'r Athro Ann John, Prifysgol Abertawe

Mae Sipsiwn / Teithwyr yn grŵp ethnig cydnabyddedig, ond ni chaiff data am eu hanghenion iechyd a defnydd y gwasanaeth eu casglu'n rheolaidd yn y GIG. Er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin yn y gymuned hon prin yw'r ymchwil empirig i anghenion iechyd meddwl Plant a Phobl Ifanc (PPI) sy'n byw ar safleoedd Teithwyr. Bydd yr astudiaeth hon yn defnyddio technegau cysylltu data geo-gofodol arloesol i gysylltu data gweinyddol ar safleoedd Sipsiwn / Teithwyr i ddata gofal sylfaenol yn y gronfa ddata SAIL. Gan ddefnyddio'r data cysylltiedig, byddwn yn adeiladu e-garfan CYP i asesu defnydd y gwasanaeth ac ymchwilio i anhwylderau iechyd meddwl o dynnu gwybodaeth am anghenion iechyd meddwl a defnydd y gwasanaeth gofal sylfaenol o CYP o’r hyn sy’n bodoli mewn safleoedd CYP Sipsiwn / Teithwyr.

Dyddiad dechrau: Hyd

Hyd: 12 mis

Ariannu gan MQ Data Science

 image

Atal Canser ymhlith Sipsiwn, Roma a Theithwyr: Prosiect Ymchwil Cyfranogol

Y Prif Ymchwilydd yw Yr Athro Louise Condon

Pwrpas y prosiect yw cydweithio gydag aelodau o'r gymuned fel cyd-ymchwilwyr i archwilio barn pobl Sipsiwn, Teithwyr a Roma yng Nghymru ar atal canser, a datblygu ymyriadau i leihau'r risg o ganser. Mae angen yr ymchwil yma oherwydd bod Sipsiwn-Teithwyr yn dioddef iechyd gwaeth na'r boblogaeth gyffredinol, a gallant brofi rhwystrau wrth gael mynediad i sgrinio a gwasanaethau iechyd eraill.

Dyddiad dechrau: Mehefin 2018

Hyd: 12 mis

Ariannu gan Tenovus Cancer Care

image

MANIFeST: Cynnal diogelwch plant a theuluoedd pan fod gan riant broblem iechyd m

Y Prif Ymchwilydd yw Yr Athro Louise Condon

Mae'r risgiau posibl i blant pan fo rhiant â phroblem iechyd meddwl yn cael eu cydnabod yn dda. Mae ymwelwyr iechyd yn nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol sydd â rôl statudol gyffredinol gyda theuluoedd, gan eu cynorthwyo i gadw plant yn iach, a bod yn gysylltiedig â theuluoedd pan maent yn cael trafferth â materion fel afiechydon rhieni. Ble mae angen cymorth ychwanegol ar deuluoedd i gadw eu plant yn ddiogel, mae ymwelwyr iechyd yn darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb ac yn cyfeirio at asiantaethau fel y gwasanaethau cymdeithasol neu dimau iechyd meddwl i oedolion. Mae'r astudiaeth hon yn archwilio sut y gall ymwelwyr iechyd gyflawni arfer gorau mewn teuluoedd lle mae problem iechyd meddwl rhiant yn cael effaith andwyol ar les y plentyn a'r datblygiad gorau posibl. Gan gydnabod bod y rheiny sy'n gweithio gyda theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar yn y sefyllfa orau i ddod o hyd i atebion i anawsterau a brofir yn eu harfer eu hunain, mae'r prosiect yn cymryd ymagwedd gyfranogol.

Dyddiad dechrau: Medi 2017

Hyd: 12 mis

Ariannu gan General Nursing Council Trust

injection

Deall nifer sy’n derbyn Imiwneiddiadau mewn cymunedau Teithio a Sipsiwn (UNITING

Mae Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn llai tebygol o gael mynediad at wasanaethau iechyd, gan gynnwys imiwneiddiad. Yn yr Astudiaeth Asesu Technoleg Iechyd yma, cynhaliwyd cyfweliadau â Theithwyr o chwe chymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr (n = 174), a darparwyr gwasanaeth.

Mewn gweithdai cyfranogi, nodwyd ymyriadau i wella cyfraddau imiwneiddiad gan aelodau'r gymuned a darparwyr gwasanaeth. Y pum ymyriad 'blaenoriaeth' oedd: (1) hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a staff rheng flaen; (2) adnabod Teithwyr mewn cofnodion iechyd i deilwra cefnogaeth a monitro'r nifer sy'n derbyn; (3) darparu person rheng flaen a enwir mewn meddygfeydd teulu i ddarparu gwasanaeth parchus a chefnogol; (4) systemau hyblyg ac amrywiol ar gyfer trefnu apwyntiadau, galw i gof ac atgoffa; a (5) cyllid wedi'i ddiogelu ar gyfer ymwelwyr iechyd sy'n arbenigo mewn iechyd Teithwyr.

children

CADW PLANT CYN OED-YSGOL YN IACH

Cadw plant cyn oed ysgol yn iach: astudiaeth ansoddol o brofiadau rhieni sydd wedi ymfudo i'r DU.

Mae grŵp plant rhieni mudol yn tyfu ym mhoblogaeth y DU gyda 25% o enedigaethau yn 2013 i famau a anwyd dramor (ONS 2014). Cynhaliwyd pum grŵp ffocws yn Ne Orllewin Lloegr gyda rhieni plant 0-5 oed a oedd wedi ymfudo i'r DU o fewn y deng mlynedd ddiwethaf.

Daeth rhieni o Rwmania, Gwlad Pwyl, Somalia, a Phacistan, gydag un grŵp yn cynnwys rhieni Roma. Roedd gwella cyfleoedd bywyd plant yn ffactor a wnaeth ysgogi mudo; fodd bynnag, unwaith yn y DU fe wnaeth gwahaniaethau mewn ffordd o fyw herio rhieni rhieni i gadw plant yn iach. Roedd pob grŵp ar wahân i'r Roma yn gweld chwarae, ymarfer corff a maeth eu plant i fod yn llai iach wedi iddynt ymfudo. Mae'r astudiaeth ansoddol hon yn dangos yr heriau y mae rhieni mudol yn eu hwynebu wrth gynnal iechyd plant yn y DU. Mae iechyd yn y blynyddoedd cynnar yn gosod y cwrs iechyd gydol oes felly mae'n bwysig bod gweithwyr iechyd plant yn cefnogi rhieni i gadw ymddygiad iechyd cadarnhaol wedi iddynt ymfudo.

 Darllen yr erthygl yn llawn 

Mrs Beryl Mansel

Athro Cyswllt, Nursing
+44 (0) 1792 295805