Graddau a hyfforddiant peirianneg deunyddiau
Gallwch astudio am BEng 3 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant neu flwyddyn dramor, neu heb y rhain. Does dim angen i chi benderfynu tan flwyddyn 2 a gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith dros yr haf gyda phartneriaid diwydiannol.
Mae'r modiwlau’n cwmpasu prif feysydd deunyddiau peirianneg a chewch gyfle i roi ar waith yr wybodaeth byddwch yn ei dysgu mewn darlithoedd trwy ddosbarthiadau labordy ymarferol ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Yn y flwyddyn gyntaf, gall myfyrwyr astudio modiwlau mathemateg neu gemeg dewisol i wneud iawn am unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth a dod â phawb i’r un lefel.
Dewis Modiwlau
Polymerau |
Trefn ac Anhrefn mewn Deunyddiau |
Deunyddiau Ceramig |
Deunyddiau Electronig |
Dadansoddi Peirianyddol |
Esblygiad microstrwythurol a rheoli deunyddiau metelig |
Technoleg Gweithgynhyrchu |
Lludded a Thorri |
Peirianneg i Bobl |
Deunyddiau ar gyfer Ynni |
Deunyddiau Cyfrifiadol |
Cyfansoddion |
Gyriad |
Llawer o ddosbarthiadau labordy i roi’r rhain i gyd ar waith |
Fel arfer, byddwch yn treulio tua 18 awr yr wythnos mewn darlithoedd. Byddwch yn cael mentor academaidd a fydd yn eich tywys drwy eich astudiaethau ac yn rhoi cymorth cyffredinol tra byddwch gyda ni.
Gan nad yw'n faes cyfarwydd iawn, caiff gwyddor deunyddiau ei dysgu mewn dosbarthiadau o lai na 40 o fyfyrwyr, sy'n golygu cymuned agos a chefnogol lle byddwch yn dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a’r academyddion. Mae hyn wedi ein helpu i gyrraedd rhif 1 yn yr arolwg cenedlaethol o fyfyrwyr (NSS) ac i gyflawni cyfraddau cyflogaeth gwych o dros 95%.