Peirianneg Gemegol
Mae peirianwyr cemegol yn gweithio'n agos gyda phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynnyrch gwerthfawr at ddefnydd pobl. Mae ein myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau i sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod sgil-gynhyrchion yn cael eu gwaredu mewn ffordd ddiogel sy’n ystyriol o’r amgylchedd.
O ysgrifennu llyfrau testun awdurdodol ar beirianneg gemegol igeisio datrys problemau prinder dŵr y byd, mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch o ddarparu atebion arloesol drwy beirianneg brosesu.
Mae ein graddau Peirianneg Gemegol yn datblygu meysydd peirianneg gemegol sefydledig mewn perthynas ag ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd, a byddwch chi'n elwa o'n cysylltiad agos â chwmnïoedd peirianneg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Acordis, Astra Zeneca, Avecia, Chemicals, GlaxoSmithKline, Nestle, Murco, Phillips 66, Unilever a Valero.