Benthyciadau a Grantiau

Cymru

Dylech chi fod yn gymwys i gyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru os:
• ydych chi'n hanu o'r DU neu os oes gennych statws sefydlog neu gyn-sefydlog yn y DU yn unol â chynllun sefydlu'r UE
• byddwch chi'n byw yng Nghymru fel arfer
• rydych chi wedi bod yn byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs
• byddwch yn astudio cwrs addysg uwch cymwys mewn coleg neu brifysgol yn y DU
• nid oes gennych gymhwyster addysg uwch eisoes

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Gall myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe ym mlwyddyn academaidd 2023/24 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau ymlaen llaw.

Benthyciadau a Grantiau Cynhaliaeth

O 2023/24, bydd hawl gan yr holl fyfyrwyr sy’n byw oddi cartref i wneud cais am £11,720 tuag at eu costau cynhaliaeth, a bydd hawl gan yr holl fyfyrwyr sy’n byw yng nghartrefi eu rhieni i wneud cais am £9,950. Bydd y dyfarniadau hyn yn cynnwys Benthyciadau Cynhaliaeth a Grantiau.

Bydd gan yr holl fyfyrwyr hawl i dderbyn lleiafswm grant o £1,000 a gallai hyn gynyddu, gan ddibynnu ar incwm yr aelwyd.

Yna caiff benthyciad ei ychwanegu at y dyfarniad grant, hyd at uchafswm o £11,720 (neu £9,950) i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn derbyn yr un cyllid tuag at eu costau byw.

E.e.

Incwm yr AelwydCyfanswm Grant Cynhaliaeth Benthyciad Cynhaliaeth - Byw gartrefCyfanswm Cymorth - Cynhaliaeth am y flwyddyn
£18,370 £6885 £3430 £10,315
£25,000 £5930 £4385 £10,315
£35,000 £4488 £5827 £10,315
£45,000 £3047 £7268 £10,315
£59,200+ £1000 £9315 £10,315

 

Incwm yr AelwydCyfanswm Grant CynhaliaethBenthyciad Cynhaliaeth - Byw Oddi CartrefCyfanswm Cymorth - Cynhaliaeth am y flwyddyn
£18,370 £8100 £4050 £12,150
£25,000 £6947 £5203 £12,150
£35,000 £5208 £6942 £12,150
£45,000 £3469 £8681 £12,150
£59,200+ £1000 £11150 £12,150

Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf ar ôl i chi gofrestru a chasglu’ch cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad dilynol ar ddiwrnod cyntaf tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf).

Diddymiad Rhannol o’r Benthyciad Cynhaliaeth

Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais hefyd am ddiddymiad un tro o hyd at £1500 ar eu Benthyciad Cynhaliaeth.

I dderbyn y diddymiad hwn, bydd rhaid i fyfyrwyr wneud ad-daliad cynnar o £5 o leiaf tuag at ddyled eu Benthyciad Cynhaliaeth. Mae’r diddymiad ar gael unwaith yn unig a chaiff ei gymryd o’r balans cyfredol sydd wedi’i dalu i’r myfyriwr. Cynghorir myfyrwyr felly i aros hyd nes eu bod wedi derbyn o leiaf £1500 o gyllid Benthyciad Cynhaliaeth cyn gwneud yr ad-daliad cynnar.

Grantiau Ychwanegol

Gall myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.

GrantUchafswm sydd ar gaelYdy wedi'i seilio ar brawf moddion?Ffurflen Gais
Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) £1,914 Ydy PN1
Grant Oedolion Dibynnol (ADG) £3,353 Ydy PN1
Grant Gofal Plant (CCG)

85% of costs up to a maximum of:

1 Child - £189/week

2+ Children - £324/week

Ydy CCG1

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth penodol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol, ewch i'n tudalen we myfyriwr+

Cofiwch – Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Maen nhw wedi’u darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Sharia Compliant Finance, gweler ein tudalen we bwrpasol sydd ar gael yma.