Seamus Heaney ac Owen Sheers: Cysylltiadau, Cyd-destunau, Dehongliadau

Cliciwch ar y ddolen uchod i wylio bardd Owen Sheers, y beirniad Richard Robinson a'r awdur Francesca Rhydderch i drafod Skirrid Hill and Field Work mewn digwyddiad ar gyfer ysgolion a recordiwyd ar 21ain Ebrill 2021. Bydd y panel yn archwilio'r cysylltiadau thematig, yn trafod cyd-destunau diwylliannol Cymreig ac Gwyddelig y gweithiau, ac yn cynnig dehongliadau a chymariaethau ehangach rhwng y ddau gasgliad ac atebwch gwestiynau a gyflwynwyd gan ysgolion.

Mae podlediad gan Owen Sheers ar Skirrid Hill a recordiwyd ym mis Mehefin 2020 hefyd ar gael.

Llenwch ffurflen adborth fer i roi eich barn ar y recordiad hwn ac i ddweud wrthyn ni ba ddigwyddiadau eraill yr hoffech chi i Adran Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe eu cynnal yn y dyfodol.

(Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefelau A ac AS CBAC a'r rhai sy'n ystyried astudio Llenyddiaeth Saesneg yn y Brifysgol.)

 

Llun o'r bardd Owen Sheers

Nofelydd, bardd a dramodydd a hefyd Athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe yw’r Athro Owen Sheers. Mae wedi cyhoeddi dwy flodeugerdd o farddoniaeth, sef The Blue Book a Skirrid Hill a enillodd Wobr Somerset Maugham, ac enillodd Wobr Barddoniaeth Wilfred Owen yn 2018. Cyhoeddwyd ei gerdd ar ffurf ffilm, a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA a Grierson, sef The Green Hollow yn ddiweddar gan Faber, a Faber gyhoeddodd hefyd gerdd ar ffurf ffilm o’i eiddo i’r BBC i nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG, sef To Provide All People.

Bydd ei ddrama un dyn Unicorns, almost, am fywyd a barddoniaeth y bardd o’r Ail Ryfel Byd, Keith Douglas, yn cael ei chynhyrchu gan The Story of Books yn y Gelli Gandryll yn ystod Gŵyl Lenyddiaeth y Gelli ym mis Mai eleni. Cyhoeddwyd ‘I Saw A Man’ gan Faber ym mis Mehefin 2015. Mae’n Athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe. Dangoswyd fersiwn lwyfan o ddrama farddoniaeth Owen, sef Pink Mist am y tro cyntaf yn theatre yr Old Vic ym Mryste ym mis Gorffennaf 2015. Am ragor o wybodaeth am Owen Sheers a'i waith ewch i http://www.owensheers.co.uk/ 

Ffotograff o Dr Richard Robinson

Athro Cysylltiol yn Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr Richard Robinson. Mae'n gweithio ym maes ysgrifennu cyfoes yn yr ugeinfed ganrif, ac mae diddordeb arbennig ganddo mewn moderniaeth a moderniaeth hwyr, Astudiaethau Gwyddelig, astudiaethau ar ffiniau (yn benodol, gynrychioliadau o Ganol Ewrop), ac agweddau ar ffilm a ffuglen Eidalaidd. Mae'n awdur Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern a Modernism (Bloomsbury, 2017) ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar awduron megis James Joyce, Kazuo Ishiguro, John McGahern, Italo Svevo, Rebecca West, Ian McEwan ac Edward St Aubyn.

Ar hyn o bryd mae Richard yn datblygu prosiect cydweithredol ar arddull, sy'n cael ei ystyried yn gysyniad bythol anniffiniadwy ym maes beirniadaeth lenyddol, theori ac athroniaeth. Mae'n cyd-olygu rhifyn arbennig o Textual Practice yn y dyfodol agos ar 'The Contemporary Problem of Style'. Ynddo, mae'n ystyried theori ac ymarfer arddull yn y cyflwyniad a cheir ynddo hefyd erthygl ganddo am arddull, tafodiaith a llenyddiaeth y byd mewn perthynas ag Elena Ferrante. Yn fwyaf diweddar ym maes Astudiaethau Gwyddelig, bydd yn cyflwyno ei bapur ‘The Unnamables: Anna Burns’s Milkman’ ar gyfer cynhadledd IASIL (Cymdeithas Ryngwladol Astudio Llenyddiaeth Wyddelig) sydd ar ddod yn Łódź yr haf hwn.

Ffotograff o Dr Francesca Rhydderch

Nofelydd ac Athro Cysylltiol yn Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr Francesca Rhydderch. Yn 2014, cafodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries ei rhoi ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Orau Clwb yr Awduron ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei straeon byrion mewn cyfrolau a chylchgronau a’u darlledu ar Radio 4 a Radio Wales. Hi oedd deiliad bwrsariaeth BBC/Tŷ Newydd yn 2010, ac yn 2014 cafodd ei rhoi ar restr fer Gwobr Straeon Byrion Genedlaethol y BBC.

Bu’n olygydd y New Welsh Review am sawl blwyddyn, ac mae'n parhau i olygu blodeugerddi ac ail-rifynnau arbennig sy'n amlygu ac yn dathlu peth o'r ysgrifennu gorau o Gymru. Yn fwyaf diweddar, cyd-olygodd flodeugerdd ffuglen Seren Books New Welsh Short Stories gyda Penny Thomas ac ysgrifennodd gyflwyniad i Dat's Love and Other Stories (Parthian) gan Leonora Brito. [Credyd y llun - Jake Morley]