Llety Campws Parc Singleton

Delwedd hir o gwmpas llety myfyrwyr Campws Singleton

Byw Ar Gampws Parc Singleton

Mae preswylwyr Campws Parc Singleton yn gallu elwa o gyfleustra bod yn agos at y darlithoedd a chyffro bod yng nghanol bywyd myfyrwyr. Mae holl breswylfeydd Campws Parc Singleton o fewn pellter cerdded i'r parc, Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Bae Abertawe ac Ysbyty Singleton.

Mae byw ar Gampws Parc Singleton yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, myfyrwyr sy'n dychwelyd, myfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr Meddygaeth a myfyrwyr ôl-raddedig.

Campws Parc Singleton sy’n gartref i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Ysgol Seicoleg, Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth,  Ffiseg, Yr Ysgol Feddygaeth, ac Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Gall myfyrwyr sy'n astudio unrhyw bwnc fyw ar Gampws Parc Singleton a cheir gwasanaeth bws rheolaidd ac uniongyrchol rhwng y campysau.

Mae preswylfeydd Campws Parc Singleton yn cynnig dewis o lety en-suite neu lety safonol yn ogystal ag ystafelloedd wedi'u haddasu. Mae gan bob fflat gegin a rennir ac mae rhai preswylfeydd yn cynnig lwfans arlwyo. Hefyd, mae gennym ni fflatiau ar y safle ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n boblogaidd ymhlith myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n chwilio am rywle i fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill. 

Edrychwch ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer ystafelloedd ar Gampws Parc Singleton isod. Prisiau cychwynnol yw'r holl ffioedd; gallwch ddarllen ein tudalen ffioedd i gael rhagor o wybodaeth am y prisiau a thalu.

 

Ystafell En-Suite – Fflat Wyth

Caswell, Langland, Oxwich, Horton a Phenmaen

  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Llety hunanarlwyo gyda chegin a rennir
  • 623 o welyau, mewn fflatiau wyth ystafell wely
  • Ystafell ganolig – 3.66m x 2.95m
  • Ystafell fawr – 6.00m x 2.75m
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd a droriau
  • Mae tenantiaethau 44-47 a 51 wythnos ar gael

O £167 y person, yr wythnos.

Dau fyfyriwr yn sgwrsio mewn ystafell wely
Tri myfyriwr mewn cegin 

Ystafell En-Suite Draddodiadol

Preseli

  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Llety hunanarlwyo gyda dwy gegin ar bob llawr
  • 174 o welyau gydag 18-20 ar bob llawr
  • Ystafell fach – 3.30m x 2.30m
  • Ystafell ganolig – 3.66m x 2.95m
  • Ystafell fawr – 6.00m x 2.75m
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd ac oergell fach ym mhob ystafell
  • Mae tenantiaethau 44-47 a 51 wythnos ar gael

O £140 y person, yr wythnos.

YSTAFELL SAFONOL, GYDAG ARLWYO

Cilfái

  • Lwfans arlwyo am £28 yr wythnos i'w ddefnyddio ym mannau arlwyo'r Brifysgol
  • Cegin a rennir
  • Ystafell ymolchi a rennir (rhwng dau berson)
  • 18 o welyau ar bob llawr
  • Ystafell ganolig 3.62mX2.92m
  • Ystafell fawr 6.04mX2.7m
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd, droriau, sinc ymolchi ac oergell fach ym mhob ystafell
  • Mae tenantiaethau 44 wythnos ar gael

O £165 y person, yr wythnos.

 
Ystafell wely yn y Brifysgol a myfyriwr yn eistedd wrth ddesg  

YSTAFELL SAFONOL, GYDAG ARLWYO

Rhosili

  • Lwfans arlwyo am £28 yr wythnos i'w ddefnyddio ym mannau arlwyo'r Brifysgol
  • Cegin a rennir
  • Ystafell ymolchi a rennir (rhwng tri o bobl)
  • 9 i 11 o welyau ar bob llawr
  • Ystafell ganolig – 3.31m x 2.81m
  • Ystafell fawr – 4.43m x 3m
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd, droriau, sinc ymolchi ac oergell fach ym mhob ystafell
  • Mae tenantiaethau 44 wythnos ar gael

O £174 y person, yr wythnos.

Ystafell wely yn y Brifysgol a myfyriwr yn eistedd wrth ddesg  

Ystafell Safonol Hunanarlwyo

Cefn Bryn

  • Llety hunanarlwyo
  • Cegin fawr wedi'i chyfarparu'n llawn
  • Ystafell ymolchi a rennir (rhwng dau berson)
  • 160 o welyau, 18 o welyau ar bob llawr mewn dwy fflat
  • Ystafell ganolig – 3.62m x 2.92m
  • Ystafell fawr – 6.04m x 2.7m
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd, droriau a sinc ymolchi
  • Mae tenantiaethau 44 wythnos ar gael

O £135 y person, yr wythnos.

Dau fyfyriwr yn sgwrsio mewn ystafell wely 

TAITH FIDEO 360°

Rhagor o wybodaeth am lety ar gampws parc singleton

Cynlluniau llawr

Cymerwch gipolwg ar gynlluniau llawr nodweddiadol rhai o'r preswylfeydd ar Gampws Parc Singleton: