Byw Ar Gampws Y Bae
Mae Campws y Bae yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf, traeth hyfryd, promenâd ar lan y môr, gan ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, y rhai sy'n dychwelyd a myfyrwyr ôl-raddedig, yn ogystal â'r rhai hynny sy'n astudio yn Y Coleg.
Yn gartref i'r adran Beirianneg, yr Ysgol Reolaeth, y Ffowndri Gyfrifiadol a'r Coleg, mae'r llety ar gael i fyfyrwyr ar yr holl gyrsiau. Gyda 2,000 o ystafelloedd, mae'r opsiynau'n cynnwys ystafelloedd maint canolig en suite, premiwm ag en suite, ystafelloedd pâr, ystafelloedd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, a fflatiau sydd ag un neu ddwy ystafell wely ar gyfer pobl sengl neu barau. Mae fflatiau Cymraeg ar gael hefyd ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.
Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cysylltu'r ddau gampws. Gallwch ddod o hyd i’r ffïoedd llety yma a gweld mwy o fanylion am yr ystafelloedd isod.