BYW YN SEREN
Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Seren i ddarparu llety o safon ar gyfer ein myfyrwyr.
Yng nghanol y ddinas gyferbyn â Gorsaf Drenau Abertawe, mae Seren yn cynnig llawer mwy nag ystafelloedd gwely mewn adeilad. Hanner ffordd rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae, bydd gennych chi ddewis enfawr o gyfleusterau i'w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau. Mae gan bob ystafell wely ystafell ymolchi en suite a theledu clyfar 32". Hefyd, ceir cegin a rennir sydd â lolfa a theledu clyfar 55". Mae ystafelloedd stiwdio hefyd yn cynnwys cegin fach breifat yn yr ystafell.
Mae'r cyfleusterau ar y safle, sy'n rhan o'r ffïoedd llety, yn cynnwys campfa ar y safle ynghyd â hanner cwrt pêl-fasged, iard wedi'i thirlunio, ardal fwyta breifat a gwahanol fannau cymdeithasol a mannau astudio. Hefyd, ceir golchdy, siop Greggs, siop gyfleustra Tesco a chaffi. Mae siopau, bariau a bwytai ar eich stepen drws hefyd.
Ceir gwasanaethau bws uniongyrchol rheolaidd rhwng y llety a'r ddau gampws. Mae'r daith yn cymryd tuag 20 munud.
Mae byw yn Seren yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn gyntaf a rhai sy'n dychwelyd, yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig.