Byw yn Nhŷ Beck
Mae Beck House, Tŷ Beck yn Gymraeg, yn cynnwys chwe thŷ tref Fictoraidd mawr gyda chymysgedd o lety a rennir a sengl. Mae'n safle bach a chyfeillgar sy'n opsiwn poblogaidd a fforddiadwy i fyfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr gwyddor gofal iechyd/meddygaeth, myfyrwyr rhyngwladol, teuluoedd a chyplau.
Lleolir Tŷ Beck yn ardal yr Uplands yn Abertawe, 1.5 milltir o Gampws Parc Singleton. Mae'r Uplands yn cynnig siopau, barau, caffis, thai bwyta a a swyddfa bost oll o fewn pellter cerdded.
Llety hunanarlwyo yw'r holl lety, ac mae gan bob breswylfa gyfleusterau golchi dillad.
Mae maes parcio am ddim i breswylwyr Tŷ Beck, ac mae gwasanaeth bysus gerllaw gyda bysus rheolaidd i'r ddau gampws a chanol y ddinas.
Edrychwch ar yr opsiynau llety sydd ar gael yn Nhŷ Beck. Gallwch ddarllen ein tudalen ffioedd i gael rhagor o wybodaeth am y prisiau a'r wybodaeth o ran talu.