PHD POLISI CYMDEITHASOL
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich PhD?
Yr hyn yr wyf yn ei fwynhau fwyaf o ran fy PhD yw fy mod yn gallu ymchwilio i bwnc sydd nid yn unig yn ddiddorol iawn ond bod gan fy ymchwil y potensial i gael effaith o fewn a thu allan i'r gymuned academaidd. Mae'r ffaith bod fy ngwaith caled ac ymrwymiad i'r prosiect nid yn unig ar gyfer datblygu gwybodaeth academaidd ond y gall hefyd newid bywydau pobl yng Nghymru er gwell.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth ddarpar fyfyrwyr ymchwil am fywyd coleg?
Peidiwch â bod ofn gwthio'ch hun y tu allan i'ch parth cysur a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir i chi! Mae'r Cyfadrannau a Phrifysgol Abertawe yn gyffredinol wedi gweithio'n ddiflino dros y blynyddoedd i ddatblygu cysylltiadau gwych â sefydliadau allanol fel bod myfyrwyr yn cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gael iddynt. Gall hyn gynnwys profiadau gwaith, interniaethau, rhaglenni cyfnewid a chyfleoedd datblygiad personol.
Felly, byddwn yn annog yn gryf i ddarpar fyfyrwyr i ymgysylltu a gwneud y gorau o'r amser a'r profiadau a gewch yn Abertawe.
Felly, manteisiwch i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae'r Brifysgol neu'r Ysgol yn eu cynnig. Gallai hyn fod yn gynhadledd neu'n gystadleuaeth. Efallai eich bod allan o'ch parth cysur ond bydd yr her yn eich helpu i ddatblygu.
Beth ydych chi fwyaf balch o gyflawni yn bersonol neu'n academaidd o ganlyniad i'ch amser yn Abertawe hyd yn hyn?
Y cyflawniad personol yr wyf yn fwyaf balch ohono yw datblygu fy sgiliau siarad cyhoeddus a chyfathrebu. Y ffaith fy mod yn gallu cyflwyno cyflwyniad llafar i gynulleidfa a derbyn adborth adeiladol a chadarnhaol yw fy nghyflawniad balchaf.
Cyn astudio yn Abertawe, fe fyddwn yn osgoi unrhyw achlysur lle roedd yn rhaid i mi siarad yn gyhoeddus. Er hynny, wrth i mi ddechrau ar fy siwrnai PhD, sylweddolais fod hwn yn fater yr oedd angen i mi fynd i’r afael ag ef ar gyfer fy natblygiad personol a phroffesiynol fy hun. Roedd hyn yn golygu fy mod yn cael fy hun yn dweud ‘gallaf’ wrth gynadleddau a digwyddiadau siarad gyda fy nghyd-gyllidwr ac rwyf bellach ar y pwynt lle gallaf reoli fy mhryder a siarad mewn modd cymwys o flaen cynulleidfa. Nawr rwy'n teimlo er nad yw'r nerfau wedi diflannu’n llwyr, mae gen i fwy o reolaeth drostyn nhw nawr. Gallaf sefyll i fyny a siarad mewn cynadleddau, cyflwyno canfyddiadau i'm cyllidwyr allanol a chynnal gweithdai.
Ni allaf ddweud fy mod wedi goresgyn y pryder siarad cyhoeddus yn gyfan gwbl ond rwyf ar bwynt lle y gallaf gyflwyno mewn modd allanol digynnwrf a chymwys na fyddai efallai wedi digwydd pe na bawn wedi dod i Brifysgol Abertawe i astudio a derbyn cefnogaeth gan fy ngoruchwyliwr a'r Ysgol.
Gyrfa’r dyfodol/bwriadon academaidd
O ran gyrfa’r dyfodol, gobeithiaf barhau i ymchwilio mewn rhyw allu cynhenid. Yn ddelfrydol, hoffwn barhau i weithio gyda’r trydydd sector neu’r sector cyhoeddus gan ymchwilio polisi cymdeithasol neu faterion iechyd a gofal cymdeithasol. Fyddai fy hoff waith mewn gyrfa a fydd yn caniatáu imi ddefnyddio fy sgiliau a helpu i wella bywydau erail.