Beth sydd ar gael yn yr Ysgol Feddygaeth?
Mae'r Ysgol Feddygaeth wedi'i lleoli ar Gampws Singleton. Yn adeilad Grove y byddwn yn addysgu anatomeg, sgiliau clinigol a'n cyrsiau Meddygaeth a'n cyrsiau i Gydymeithion Meddygol.
Athrofa Gwyddor Bywyd yr Ysgol Feddygaeth yw'r prif gyfleuster ymchwil feddygol yng Nghymru a'r buddsoddiad mwyaf a wnaed erioed gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw gampws prifysgol.
Cafodd ein Hadeilad Gwyddor Data, a gwblhawyd yn 2015, ei ddatblygu fel canolfan o'r radd flaenaf ym maes e-Iechyd ac ymchwil, hyfforddi a datblygu gweinyddol.
Mae'r datblygiadau hyn yn denu llawer o ddiwydiannau arweiniol i'r Ysgol Feddygaeth ac yn golygu bod modd cyflawni ymchwil ac arloesedd yn ein pedair prif Thema Ymchwil, gan sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran rhagoriaeth ymchwil fyd-eang.
Ymhlith y cyfleusterau yn ein holl adeiladau mae labordai ymchwil modern sy'n cynnwys yr offeryniaeth ddiweddaraf ar gyfer dadansoddi biofoleciwlaidd, gan gynnwys microsgopeg gydffocal, delweddu cynnwys uchel, ystafell cytometreg llif, sbectrometreg màs, cyfleuster dilyniannu DNA, galluoedd biowybodeg a llawer mwy.