saith
Rydyn ni'n cynnig bwrsariaeth Sharon James i fyfyrwyr benywaidd o Gymru yn y flwyddyn gyntaf sy'n astudio cyrsiau clinigol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac sydd hefyd yn bodloni un o'n meini prawf Ehangu Cyfranogiad.
Mae'r pynciau sy'n gymwys yn cynnwys Gwyddorau Gofal Iechyd, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol, Therapi Galwedigaethol ac Ymarfer yr Adran Lawfeddygaeth. Mae'r fwrsariaeth hon hefyd ar gael i fyfyrwyr benywaidd o Gymru sy'n astudio ar ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.
Pwy yw Dr Sharon James?
Yn wreiddiol o ardal Aberteifi, mae Dr Sharon James ar hyn o bryd yn aelod o Fwrdd Cwmnïau Gofal Iechyd a Biotechnoleg yn Sweden (Mölnlycke), Denmarc (Novozymes) a Chanada (Algae-C) lle mae hi’n ddi-baid yn ei hymdrech i arloesi a darparu gwelliannau ansawdd bywyd i ddefnyddwyr a chleifion. Mae hi hefyd yn credu’n gryf bod gennym ddyletswydd absoliwt i ofalu am yr amgylchedd ac wedi dod yn ddylanwadir cryf ac yn hyrwyddwr ar agendâu Cynaliadwyedd cwmnïau ei Bwrdd.
Mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad rhyngwladol ar lefel Prif Swyddog Technoleg/Bwrdd mewn cwmnïau byd-eang o’r radd flaenaf (Bayer, Reckitt, PepsiCo) lle bu’n arwain a thrawsnewid timau Ymchwil a Datblygu byd-eang mawr yn y sectorau Aelwydydd a Gofal Iechyd. Ei chenhadaeth bersonol erioed fu grymuso defnyddwyr a chleifion i wneud dewisiadau sy'n cefnogi eu hiechyd personol - gan gredu'n gryf bod y gallu i reoli eich iechyd a'ch lles eich hun yn hawl ddynol sylfaenol i bawb. I'r perwyl hwnnw, mae hi wedi cyflawni arloesedd iechyd trawsffurfiol sy'n cael ei garu gan ddefnyddwyr yn rhyngwladol.
Mae hi'n eiriolwr cryf a lleisiol dros fenywod mewn gwyddoniaeth ac yn gweithredu fel mentor i lawer o weithwyr proffesiynol ifanc benywaidd. Mae hi wedi ymrwymo i agor y drysau i addysg wyddoniaeth i ferched ifanc trwy raglenni STEM a sefydlodd y mudiad ‘Making Sense of Science’ ar gyfer Bayer USA i annog plant i astudio a chofleidio gwyddoniaeth.
Mae’r cynllun bwrsariaeth hwn yn dangos ymrwymiad cadarn Sharon i gefnogi pobl ifanc, yn enwedig menywod, drwy roi cyfleoedd iddynt gyflawni eu potensial. Ar ôl dod o gefndir dosbarth gweithiol ei hun, mae hi’n deall yn iawn y rhwystrau a’r heriau y gall cyfyngiadau ariannol eu cyflwyno. Mae Prifysgol Abertawe yn hynod ddiolchgar i Sharon am ddarparu'r gefnogaeth hollbwysig hon ac edrychwn ymlaen at ddyfarnu'r set gyntaf o Fwrsariaethau Sharon James yn 2025.
Astudiaethau Achos Bwrsariaeth
Clywch gan ein myfyrwyr ar yr hyn y mae derbyn y fwrsariaeth yn ei olygu iddyn nhw...