Cymorth Dysgu Digidol
Fel rhan o'n hymrwymiad i ehangu mynediad at ein cyrsiau gofal iechyd a chlinigol, mae Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) wedi ymrwymo i ddarparu cymorth dysgu digidol i fyfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, rydym yn falch o allu cynnig gliniadur i'ch helpu i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Sylwer na chewch liniadur oni bai eich bod yn fyfyriwr sy'n hanu o Gymru ac sy'n byw yn y isaf (20%) o ardaloedd a ddiffinnir gan feini prawf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.