Am Bae Abertawe a'r Ysgol Feddygaeth
Mae gennym gysylltiadau cryf â'n bwrdd iechyd lleol sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae Bae Abertawe yn cwmpasu poblogaeth o tua 500,000 o bobl a chanddo gyllideb o £1.3 biliwn. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 16,000 o aelodau staff, y mae 70% ohonynt yn rhan o ofal cleifion uniongyrchol.
Mae gan y Bwrdd Iechyd bedwar ysbyty aciwt yn darparu ystod o wasanaethau; Ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mhort Talbot. Mae nifer o ganolfannau adnoddau gofal sylfaenol mewn ysbytai cymunedol llai gan ddarparu gwasanaethau clinigol pwysig i'n preswylwyr y tu allan i'r pedwar prif leoliad ysbyty aciwt.
Mae dros 300 o Ymarferwyr Cyffredinol, tua 275 o ddeintyddion, 125 o Fferyllfeydd Cymunedol a 60 o leoliadau Optometreg ar draws y Bwrdd Iechyd. Darperir Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol hefyd gan Bae Abertawe yng Ngharchar Ei Mawrhydi Abertawe.
Hyfforddi Meddygon a Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Iechyd gyda'i gilydd
Mae'r Bwrdd Iechyd yn Fwrdd Iechyd Prifysgol ac felly mae ganddo gysylltiadau ardderchog â Phrifysgol Abertawe y maent wrthi'n cynnal prosiectau cyffrous ar y cyd. Gweithiodd yr Ysgol Feddygaeth mewn partneriaeth gyda Bae Abertawe i ennill dyfarniad gradd Meddygaeth i Raddedigion Cymru yn Abertawe.
Datblygiadau ym maes Ymchwil ac Arloesi
Trwy ddatblygu Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS) ac ILS2 a'r Adeilad Gwyddor Data yn yr Ysgol Feddygaeth crëwyd amgylchedd diogel ac effeithiol ar gyfer treialon clinigol yn ei Gyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd a leolir yn yr Ysgol Feddygaeth ar Gampws Parc Singleton. Mae ein cydweithredu a'n gweithio mewn partneriaeth agos yn rhoi potensial cyfoethog ar gyfer datblygiadau ym maes meddygaeth, iechyd a gwyddor bywyd a hefyd ar gyfer hyrwyddo'r economi wybodaeth leol yn gryf.
Mae'r dull cydweithredol hwn hefyd wedi arwain at ddatblygu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer addysgu clinigol amlddisgyblaethol ar lefel ôl-raddedig i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio gyda'r GIG yng Nghymru.