Y Buddsoddiad Mwyaf Erioed Yn Ne-Orllewin Cymru
Buddsoddiad Dinas-ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn yw'r buddsoddiad mwyaf erioed ar draws de-orllewin Cymru. Nod y Dinas-ranbarth yw cyflenwi 11 o brosiectau technoleg, iechyd a lles, a pheirianneg uwch yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe dros 15 mlynedd.
Mae'r buddsoddiad a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi dod â phedwar awdurdod lleol Abertawe, Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro a phartneriaid y sector cyhoeddus, gan gynnwys Prifysgol Abertawe ynghyd.
Mae'r Ysgol Feddygaeth yn rhan allweddol o'r rhanbarth ac mae'n helpu i brofi cysyniadau iechyd a gwyddor bywyd newydd ac yna eu masnacheiddio ar gyfer marchnad fyd-eang. Mae'r Ysgol Feddygaeth, ynghyd â chydweithwyr yn y Brifysgol, hefyd yn helpu i gyflenwi'r fenter sgiliau a ymgorfforwyd yn uchelgeisiau'r Dinas-ranbarth.
Prosiectau'r Dinas-ranbarth
Mae'r Ysgol Feddygaeth yn rhan o'u cyflenwi mae'r gwaith o ddatblygu campysau Iechyd a Gwyddor Bywyd yn Singleton a Threforys.