EWCH YN FYD-EANG GYDA HANES

Fel myfyriwr Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, efallai byddwch yn gallu trosglwyddo o'ch cynllun gradd tair blynedd i gwrs pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor. Fel arfer, bydd angen i chi ddechrau meddwl am hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna ddod i sgyrsiau Astudio Dramor ar ddechrau eich ail flwyddyn, lle byddwn yn dweud wrthych am yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud nesaf.

Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion partner y mae'r adran Hanes yn gweithio ar y cyd â hwy ar hyn o bryd. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol ac efallai byddwch yn gallu cyflwyno cais am le gyda phartner ‘prifysgol-eang’ hefyd; fodd bynnag, mae nifer y lleoedd sydd ar gael a’r cyrchfannau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg!

Nid yw cofrestru am raglen â semester/blwyddyn dramor yn gwarantu eich lleoliad dramor am semester/blwyddyn. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ac fe'u trefnir yn unol â phroses ddethol gystadleuol. Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester/blwyddyn dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn gyffredin eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.Gallai'r opsiynau sydd ar gael i chi ddibynnu ar fanylion y cytundeb Brexit a negodir gan lywodraeth y DU.