Blwyddyn Dramor - Y Clasuron

Fel myfyriwr y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe, efallai byddwch yn gallu trosglwyddo o'ch cynllun gradd tair blynedd i gwrs pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor. Fel arfer, bydd angen ichi ddechrau meddwl am hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna ddod i sgyrsiau Astudio Dramor ar ddechrau eich ail flwyddyn, lle byddwn yn dweud wrthych am yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud nesaf.

Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion sy'n bartneriaid i adran y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg ar hyn o bryd. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol ac efallai byddwch yn gallu cyflwyno cais am le mewn prifysgol sy'n bartner i'r ‘brifysgol gyfan’ hefyd; fodd bynnag, mae'r argaeledd a’r cyrchfannau’n amrywio o  un flwyddyn i flwyddyn’r llall felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg!

Nid yw cofrestru am raglen â semester/blwyddyn dramor yn gwarantu eich lleoliad dramor am semester/blwyddyn. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ac fe'u trefnir yn unol â phroses ddethol gystadleuol. Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester/blwyddyn dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn gyffredin eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. Gallai'r opsiynau sydd ar gael i chi ddibynnu ar ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a niferoedd o lefydd mewn prifysgolion partner.