Twr yn Bali

Mae'r amser wedi dod…Croeso i Fali, Indonesia! Os wyt ti'n ysu am adael dy barth cysur i gael profiad unigryw ac ystyrlon, gallet ti fod yn un o'r myfyrwyr cyntaf i ymuno â lleoliadau newydd Think Pacific a chyfrannu ar raddfa fyd-eang.

Ymuna mewn tîm a byw mewn cymuned Balïaidd draddodiadol, dysgu am y diwylliant mewn ffordd bersonol a chael profiadau proffesiynol gwobrwyol ac ymdrochol. Dyma gyfle i ti weld yr ynys nefolaidd hon drwy lens leol, lle bydd dy safbwyntiau'n cael eu herio a byddi di'n datblygu sgiliau ac yn gwneud atgofion a ffrindiau gydol oes.

Mewn amrantiad...

  • Rhaglenni byd-eang cynaliadwy arobryn, ers 2009.
  • Hyd at 120 neu fwy o oriau o ddysgu, mentora a phrofiad gwaith byd-eang.
  • Gelli di weithio i un o'n partneriaid dibynadwy a chydweithredu i gyflawni nodau lleol
  • Cyfle i ymgolli mewn diwylliant pentref traddodiadol. Gelli di fyw gyda theulu maeth Balïaidd.
  • Cyfle i ddatblygu dy sgiliau, dy ddealltwriaeth ddiwylliannol a'th sgiliau arwain er mwyn gwella dy