Pentref yn y mynyddoedd

Mae Travelteer ar flaen y gad ym myd teithio'n gyfrifol a gwirfoddoli'n foesegol. Ar ôl i'w sefydlwyr gael profiad personol o'r effaith gadarnhaol y gall gwirfoddoli ei chael ar gymunedau lleol, mae'r sefydliad wedi llunio amrywiaeth o raglenni elusennol sy'n defnyddio setiau sgiliau gwirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae ei athroniaeth yn cyfuno antur llawn ysbrydoliaeth â gwirfoddoli sy'n creu effaith fawr wrth gynnal amgylchedd diogel a chymdeithasol. Mae'r prosiectau i gyd yn cefnogi Travelteer Impact (ei elusen), lle bydd pob un geiniog o gyllid myfyrwyr yn ariannu prosiectau yn Sri Lanka a Nepal.

Mae Travelteer yn cynnal y rhaglen ganlynol yn Nepal:

  • Rhaglen datblygu cymunedol ym mhentrefi'r mynyddoeddhttps://travelteer.co.uk/programmes/community-development
  • Mae tîm Travelteer bob amser ar gael dros y ffôn neu drwy anfon e-bost neu neges destun i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych!
  • Bydd yn eich cyfeirio chi at wirfoddolwyr eraill ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Bydd yn gwneud yn siŵr eich bod chi wedi eich paratoi'n llwyr am eich taith; gan gynnwys eich helpu chi i drefnu eich tocynnau awyren, trefnu eich fisa a hyd yn oed argymell beth dylech chi ei roi yn eich bag.
  • Mae tîm Travelteer yn darparu cymorth cynhwysfawr yn y wlad 24/7.
  • Rhoddir hyfforddiant ar gyfer y rhaglen yn y wlad ar ddechrau'r rhaglen.

Yn ogystal â chostau'r rhaglen, mae angen i'r holl gyfranogwyr godi o leiaf £75 yr wythnos ar gyfer pob wythnos y byddant yn gwirfoddoli. Mae angen i wirfoddolwyr sy'n ymgymryd â lleoliad pedair wythnos neu fwy godi o leiaf uchafswm o £300 o bunnoedd. Mae'r arian a godir yn galluogi Travelteer i brynu cyfarpar a datblygu'r rhaglenni ymhellach. Mae 100% o'r arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i'r rhaglen rydych chi’n gwirfoddoli arni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://travelteer.co.uk/fundraising 

Os ydych chi’n barod i gyflwyno cais am y rhaglen, cwblhewch ein ffurflen gais am fwrsariaeth yma.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gyflwyno cais yn y gwymplen isod. 

Mynyddoedd Himalayas
Grwp o fyfyrwyr o gwmpas bwrdd
Adeilad
Rhino