Ysgol Fusnes Mannheim, Yr Almaen

Myfyrwyr o flaen adeilad yn Mannheim

Yr haf hwn, gallech chi astudio yn un o'r ysgolion busnes gorau yn yr Almaen...

Gallwch chi gwrdd â phobl ar-lein ledled y byd, rhoi hwb i'ch rhwydwaith proffesiynol drwy drafod ag ymarferwyr profiadol a darganfod sut brofiad yw astudio yn ysgol fusnes orau'r Almaen. Mae Ysgol Fusnes Prifysgol Mannheim yn un o ysgolion busnes enwocaf Ewrop.Mae Prifysgol Mannheim yn ymddangos yn gyson ar frig y tablau cenedlaethol ac mae'n un o'r ychydig yn unig o sefydliadau Almaenaidd sydd wedi ennill y tri phrif achrediad rhyngwladol (AACSB, EQUIS, ac AMBA).

Peidiwch â cholli'r cyfle i ddysgu rhagor am yr Almaen ac ymgolli yn niwylliant Almaenaidd yr haf hwn!

Mae tri dewis 1 wythnos  ar gael.Mae cyllid ar gael i fyfyrwyr sy'n cwblhau dwy wythnos yn olynol yn unig (h.y. Dewis 1+2 24 Mehefin i 5 Gorffennaf neu Ddewis 2+3 1 Gorffennaf i 12 Gorffennaf)

  1. Entrepreneuriaeth ac Arloesedd - Cyllido torfol: 24-28 Mehefin 2024
  2. Deallusrwydd Artiffisial mewn Busnes - 1-5 Gorffennaf 2024
  3. Dylunio Modelau Busnes sydd wedi'u llywio gan ddata - 8 i 12 Gorffennaf 2024

Mae'r Ysgol Haf ar gyfer myfyrwyr graddedig a myfyrwyr israddedig uwch.Sylwer, ni ellir defnyddio credydau a enillir yn ystod y rhaglen haf hon tuag at eich gradd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ysgol Fusnes Mannheim.