Translation and Intercultural Communication, MA

Myfyrwyr mewn labordy iaith

Trosolwg o'r Cwrs

Nod ein MA mewn Cyfieithu a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol yw'ch arfogi fel ieithydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd technolegol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant ieithoedd byd-eang amrywiol sy'n datblygu.

Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi am yrfaoedd fel cyfieithydd proffesiynol, cyfieithydd ar y pryd neu arbenigwr cyfathrebu rhyngddiwylliannol, yn ogystal â rolau sy'n dod i'r amlwg megis arbenigwr lleoleiddio a thrawsgreu, rheolwr prosiectau iaith, arbenigwr technoleg iaith neu weithiwr proffesiynol mewn addasu cynnwys.

Byddwch yn gweithio yn Saesneg gydag un neu fwy o'r ieithoedd canlynol (yn amodol ar alw):

  • Arabeg
  • Tsieineeg
  • Ffrangeg
  • Almaeneg
  • Eidaleg
  • Sbaeneg
  • Cymraeg

Mae llwybrau astudio hyblyg yn eich galluogi i ddewis y llwybr Cyfieithu Proffesiynol/Technoleg, y llwybr Cyfieithu ar y Pryd, neu gyfuniad o'r ddau, gydag opsiynau ychwanegol megis Cyfieithu Clyweledol, Efelychu Swyddfa Gyfieithu, Cloddio Gwybodaeth a Chyfieithu Arbenigol i gyfoethogi eich profiad dysgu ymhellach.

Agwedd unigryw ar yr MA hon yw y gallwch gael interniaeth 12 wythnos yn hytrach na chyflwyno traethawd hir traddodiadol, cyfle arbennig i chi ennill profiad ymarferol mewn lleoliad proffesiynol. Neu, gallwch ddewis cwblhau traethawd hir traddodiadol neu opsiwn cyfieithiadau estynedig.

Mae'r MA hon hefyd yn cynnwys opsiynau i astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, a chyfleoedd i astudio MA Safonol, Estynedig neu Ddwbl gyda Grenoble.

Mae'r MA estynedig hefyd yn eich galluogi i wella eich profiad a'ch cyflogadwyedd drwy:

  • gwblhau credydau arbenigol ychwanegol yn Abertawe neu
  • dreulio semester dramor yn un o'n prifysgolion partner, ymysg opsiynau eraill

Mae MA ddwbl mewn Cyfieithu a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol ar gael i fyfyrwyr sydd â gallu brodorol neu'n agos at hynny mewn Saesneg a Ffrangeg.  Bydd myfyrwyr yn graddio gyda dwy radd Meistr a phrofiad trawsddiwylliannol amhrisiadwy.

Pam Translation and Intercultural Communication yn Abertawe?

Drwy ddewis yr MA mewn Cyfieithu a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe byddwch yn ymuno â rhaglen sy'n canolbwyntio ar y dyfodol er mwyn lansio eich gyrfa fyd-eang.  Os ydych yn angerddol am dechnolegau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, neu gyfuniad o'r ddau, byddwch yn llunio'r llwybr sy'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau orau. 

Byddwch yn astudio mewn cyfleusterau rhagorol ac yn ennill profiad ymarferol gydag offer safonol y diwydiant, llifoedd gwaith lleoleiddio'r cyfryngau a phlatfformau cydweithio rhyngwladol. Gydag opsiynau am interniaethau yn y DU neu dramor, amryw o ddulliau astudio hyblyg a chyfleoedd am ardystiad meddalwedd proffesiynol am ddim, mae'r radd wedi'i chreu ar sail cyflogadwyedd a pherthnasedd i'r byd go iawn.

Byddwch yn dysgu gan staff arbenigol, yn elwa o gymorth academaidd a lles eithriadol ac yn cysylltu ag arweinwyr diwydiant drwy ddigwyddiadau, gweithdai a grwpiau ymchwil. Wedi'i lleoli ar Gampws hardd Parc Singleton ac yn cyd-fynd â safonau Ewropeaidd, mae'r rhaglen yn cynnig amgylchedd deinamig a chefnogol lle bydd eich sgiliau, eich hyder a'r proffil proffesiynol wir yn ffynnu.

  • Cofrestrwch ar Lwybr Technolegol, Llwybr Cyfieithu ar y Pryd neu gymysgedd o'r ddau
  • Dewiswch interniaeth 12 wythnos yn y DU neu dramor fel dewis amgen i draethawd hir traddodiadol gan roi hwb i'ch profiad a'ch cyflogadwyedd yn y byd go iawn
  • Dewiswch ddull astudio sy'n addas i chi - Safonol (blwyddyn) neu Estynedig (2 flynedd), rhan-amser (2 neu 3 blynedd) neu amser llawn
  • Mynediad at gyfleoedd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chymhwysedd am Ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi os ydych yn cwblhau 40 o gredydau yn Gymraeg.
  • Cael ardystiadau meddalwedd a gydnabyddir gan y diwydiant am ddim yn uniongyrchol gan ddatblygwyr offer CAT megis RWS Trados Studio, Phrase TMS, memoQ, ZOOsubs a ZOOdubs (yn amodol ar argaeledd)
  • Gweithio gyda llifoedd gwaith is-deitlo a throsleisio proffesiynol a ddefnyddir yn y diwydiant lleoleiddio'r cyfryngau byd-eang drwy aelodaeth Abertawe o Rwydwaith Partner Academi ZOO
  • Byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys Labordai Cyfieithu dynodedig gyda meddalwedd ddiweddaraf y diwydiant, adnoddau llyfrgell rhagorol ac Ystafell Cyfieithu ar y Pryd mewn Cynadleddau gwbl hygyrch gyda bythod cyfieithu ar y pryd o'r radd flaenaf
  • Byddwch yn cael cymorth academaidd a lles rhagorol, gan gynnwys tiwtor personol, adnoddau ôl-raddedig dynodedig a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd
  • Ymunwch â digwyddiadau, sgyrsiau a gweithdai proffesiynol a gynhelir gan STING, Grŵp Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Abertawe, sy'n eich cysylltu chi ag arweinwyr diwydiant ac ymchwil
  • Byddwch yn astudio rhaglen a lywir gan safonau Ewropeaidd, gydag Abertawe'n parhau i ymgysylltu â Rhwydwaith Graddau Meistr Cyfieithu Ewrop a chynnal ei meincnodau safon uchel.
  • Cydweithio'n rhyngwladol drwy INSTB, rhwydwaith Rhyngwladol Efelychu Swyddfa Gyfieithu, gan ennill profiad ymarferol o lifau gwaith cyfieithu byd-eang
  • Byddwch yn astudio mewn lleoliad godidog ar Gampws Parc Singleton, yn edrych dros Fae Abertawe ychydig funudau o Benrhyn Gŵyr hyfryd.
  • Yn elwa o dros ddegawd o ragoriaeth brofedig mewn hyfforddiant cyfieithu proffesiynol, gyda chanlyniadau rhagorol a gyflawnwyd gan genedlaethau o raddedigion Abertawe
  • Gallwch gael mynediad at gyrsiau, adnoddau a chyfleoedd gyrfa unigryw, diolch i aelodaeth Abertawe o GALA (Cymdeithas Globaleiddio a Lleoleiddio)

Eich Profiad Translation and Intercultural Communication

Mae ein gradd MA yn cynnig hyblygrwydd rhagorol, gyda dau lwybr astudio - Safonol neu Estynedig - a'r ddau ar gael ar sail amser llawn neu ran-amser. Gallwch hyd yn oed drosglwyddo rhwng llwybrau yn ystod eich dau semester cyntaf.

  • MA Safonol blwyddyn amser llawn; 2-3 blynedd (rhan-amser)
  • MA Estynedig: 2 flynedd amser llawn; 4 blynedd ran-amser, yn dilyn y model Bologna Ewropeaidd

Mae'r radd MA Estynedig yn gwella eich profiadau gyda chredydau arbenigo ychwanegol, yr opsiwn i astudio dramor am semester, neu gyfleoedd i ddyfnhau eich arbenigedd iaith.

Eich Llwybr, Eich Dewis

Gallwch ddewis Cyfieithu Proffesiynol/Llwybr Technolegol/ y Llwybr Cyfieithu ar y Pryd, neu lwybr cymysg sydd wedi'i deilwra i'ch nodau.

Cyfieithu Proffesiynol/Llwybr Technolegol

Gallwch ddatblygu sgiliau cyfieithu uwch a meistroli technolegau'r diwydiant, gan gynnwys offer CAT, golygu ar ôl defnyddio cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, lleoleiddio, trawsgreu, llifau gwaith a arweinir gan AI a pheirianneg promptiau.  Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  • Cyfieithu â Chymorth Technoleg
  • Lleoleiddio a Thrawsgreu yn yr Oes AI
  • Cyfieithu Clyweledol

Llwybr Dehongli

Gallwch ennill manwl gywirdeb ieithyddol a gallu rhyngddiwylliannol sydd eu hangen ar gyfer cyfieithu proffesiynol ar draws lleoliadau amrywiol. Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  • Cyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau
  • Cyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd

Llwybr Cymysg

Gallwch gyfuno modiwlau o'r ddau lwybr i greu rhaglen deilwredig.

Meithrin Arbenigedd Arbenigol

Mae modiwlau opsiynol yn eich galluogi i atgynhyrchu amgylchoedd cyfieithu go iawn a datblygu sgiliau y mae galw amdanynt:

  • Efelychu Swyddfa Gyfieithu
  • Cloddio Gwybodaeth
  • Cyfieithu Arbenigol

Gall myfyrwyr yr MA Estynedig hefyd ddechrau dysgu iaith newydd (Catalaneg, Eidaleg neu Bortiwgaleg) neu ddatblygu Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg ymhellach.

Arbenigo a Chwblhau eich MA

Yn ail ran eich gradd, gallwch ddewis un o dri llwybr:

  • Interniaeth 12 wythnos (sy'n cyfrif fel eich traethawd hir)
  • Dau gyfieithiad estynedig gyda sylwadau
  • Traethawd hir ymchwil traddodiadol

Mae myfyrwyr llwybr estynedig yn cwblhau 120 credyd ychwanegol - 60 ar gyfer un o'r opsiynau traethawd hir, ynghyd â 60 credyd arall sy'n cynnwys y canlynol:

  • Traethawd hir arall
  • Modiwlau a addysgir ychwanegol
  • Semester dramor

MA ddwbl gydag Université Grenoble-Alpes

Os ydych yn siaradwr Saesneg a Ffrangeg brodol neu'n agos at hynny, gallwch astudio MA ddwbl o fri:

  • Blwyddyn 1: Prifysgol Abertawe
  • Blwyddyn 2: Université Grenoble-Alpes, gyda modiwlau wedi'u haddysgu yn Ffrangeg

Cyfleoedd Cyflogaeth Translation and Intercultural Communication

Mae graddedigion yr MA yn mynd i farchnad swyddi fyd-eang lle mae galw mawr am arbenigedd amlieithog, deallusrwydd diwylliannol a sgiliau technolegol. Nod y rhaglen yw agor drysau i ystod eang o yrfaoedd, gan roi'r hyblygrwydd i chi lywio eich llwybr proffesiynol sy'n diwallu eich anghenion a'ch uchelgeisiau.

Bydd myfyrwyr sy'n dewis y Llwybr Cyfieithu Proffesiynol yn cael eu harfogi am yrfaoedd fel cyfieithwyr proffesiynol, cyfieithwyr ar y pryd ac arbenigwyr lleoleiddio, gan weithio gyda chynnwys amlieithog ar draws byd busnes, y sector cyhoeddus, y diwydiannau creadigol a sefydliadau rhyngwladol. Mae hyfforddiant ar gyfer defnyddio offer CAT, golygu cyfieithiadau ar ôl defnyddio cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, cyfieithu clyweledol, is-deitlo, trosleisio a llifau gwaith a arweinir gan AI, yn eich paratoi ar gyfer rolau sy'n datblygu'n gyflym yn y sector iaith a thechnoleg, gan gynnwys arbenigwr technoleg iaith, arbenigwr trawsgreu, arbenigwr addasu cynnwys a rheolwr prosiect mewn cwmnïau cyfieithu a lleoleiddio.

I fyfyrwyr sy'n dewis y Llwybr Cyfieithu ar y Pryd, mae'r rhaglen yn cynnig yr wybodaeth a'r profiad ymarferol sydd eu hangen ar gyfer rolau mewn cyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau, cyfieithu ar y pryd mewn gofal iechyd a chyfieithu ar y pryd yn y gymuned, lle mae gallu rhyngddiwylliannol a moeseg broffesiynol yn hanfodol.

Mae elfen broffesiynol y radd hefyd yn cefnogi gyrfaoedd y tu hwnt i rolau iaith traddodiadol. Mae sgiliau mewn cyfathrebu rhyngddiwylliannol, cloddio gwybodaeth, rheoli terminoleg, creu cynnwys amlieithog a chyfathrebu digidol yn paratoi graddedigion am swyddi gyda chyrff anllywodraethol, timau marchnata byd-eang, addysg ryngwladol, diplomyddiaeth, sefydliadau diwylliannol a chwmnïau amlwladol.

Cryfder arbennig y rhaglen yw ei phwyslais ar brofiad yn y byd go iawn. Gallwch ddewis interniaeth 12 wythnos yn y DU neu dramor gan roi profiad gwerthfawr i chi o'r diwydiant a chyfle i feithrin rhwydwaith proffesiynol. Drwy bartneriaethau Abertawe—megis Rhwydwaith Partner Academi ZOO, INSTB, a'r Gymdeithas Globaleiddio a Lleoleiddio (GALA)—byddwch yn cael mewnwelediad uniongyrchol i ddisgwyliadau'r sector a thueddiadau sy'n dechrau ymddangos.

Mae ardystiadau meddalwedd a gydnabyddir gan y diwydiant am ddim (gan gynnwys RWS Trados Studio, Phrase TMS, memoQ, ZOOsubs a ZOOdubs) yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Gall myfyrwyr y mae eu Saesneg a'u Ffrangeg bron ar lefel frodorol hefyd yn gallu dilyn gradd MA Ddwbl gydag Université Grenoble Alpes, gan raddio gyda dwy radd a phrofiad trawsddiwylliannol gwerthfawr.

Efallai eich bod am arbenigo mewn cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, lleoleiddio, trawsgreu, cyfieithu clyweledol neu gyfathrebu rhyngddiwylliannol, ac mae'r MA yn cynnig yr arbenigedd, yr hyder a'r cysylltiadau proffesiynol i ffynnu mewn diwydiant iaith byd-eang sy'n datblygu'n gyflym.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.